Murlun Newydd yn Ysgol Bro Pedr

Theatr Genedlaethol Cymru yn gweithio’n greadigol gydag 16 o ddisgyblion Ysgol Bro Pedr.

Theatr Genedlaethol Cymru
gan Theatr Genedlaethol Cymru

Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn falch o gyhoeddi ei bod yn gweithio’n greadigol gydag 16 o ddisgyblion Ysgol Bro Pedr, Llanbedr Pont Steffan, diolch i gefnogaeth ariannol gan Western Power Distribution (WPD) a rhaglen CultureStep Celf a Busnes Cymru.

Gyda’r nod o weithio’n greadigol gyda phobl ifanc nad ydynt wedi ymwneud â’r celfyddydau o’r blaen, mae’r cwmni wedi mynd ati i drefnu gweithdai dwyieithog gyda’r disgyblion – sy’n rhan o adran anghenion addysg ychwanegol yr ysgol – i greu murlun wedi’i ysbrydoli gan eu hardal leol. Mae’r artist Siôn Tomos Owen yn arwain y gweithdai ac yn gweithio gyda’r bobl ifanc i greu’r murlun.

Gan ddefnyddio’r celfyddydau fel cyfrwng, mae’r prosiect hefyd yn addysgu’r disgyblion sut i gadw’n ddiogel o gwmpas trydan, a bydd y murlun yn cynnwys Pylonman, sef cymeriad arch-arwr WPD i blant. Gallwch weld rhagor o adnoddau addysg i blant, pobl ifanc ac athrawon drwy ymweld â gwefan WPD.

Mae’r prosiect hwn yn bosib diolch i fuddsoddiad gan CultureStep Celf a Busnes Cymru i ddatblygu partneriaeth greadigol rhwng Theatr Genedlaethol Cymru a Western Power Distribution.

Dywedodd Rhian A. Davies, Cynhyrchydd Gweithredol Theatr Genedlaethol Cymru:
“Ry’n ni wir yn croesawu’r cyfle yma i gydweithio gyda Western Power Distribution er mwyn codi ymwybyddiaeth am eu gwaith nhw a chael partneriaeth gelfyddydol newydd gyda’r cwmni ac Ysgol Bro Pedr. Ry’n ni yn Theatr Gen yn awyddus i gydweithio mwy gyda chwmnïau masnachol fel Western Power Distribution, ac yn falch iawn o’r cyfle i wneud hynny y tro hwn.”

Dywedodd Karen Welch o Western Power Distribution:
“Rydyn ni’n credu ei bod yn holl bwysig i addysgu pobl ifanc am y rhan allweddol mae trydan yn ei chwarae yn ein bywydau – a’r peryglon o beidio â’i drin â pharch. Mae ein gwefan addysgol (powerdiscoveryzone.com) yn canolbwyntio ar addysgu plant ifanc o bob un o’n rhanbarthau sut i gadw’n ddiogel o gwmpas trydan. Rydyn ni’n falch iawn o weithio mewn partneriaeth â Theatr Genedlaethol Cymru ac wrth ein boddau eu bod wedi llwyddo i gyflawni’r prosiect hwn yn rhithiol yn ystod y cyfnod anodd a heriol hwn. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at weld y murlun gorffenedig.”

Dywedodd Anita Jacob, cydlynydd adran Sgiliau Bywyd Ysgol Bro Pedr:
“Mae’r disgyblion a’r staff wedi gwirioneddol fwynhau’r sesiynau i greu murlun newydd sy’n cynrychioli adran Sgiliau Bywyd Ysgol Bro Pedr. Mae’r disgyblion wedi mynegi eu barn ac wedi cyfrannu’n frwdfrydig gan ddatblygu eu sgiliau meddwl a’u sgiliau creadigol. Fel disgyblion a staff, ry’n ni’n ddiolchgar am y cyfle hwn ac yn edrych ymlaen at weld y murlun yn cymryd ei le ym mhrif fynedfa’r ysgol.”

Fel yr artist sy’n cynnal y gweithdai, ychwanegodd Siôn Tomos Owen:
“Dwi’n mwynhau’r her o weithio ar y prosiect yma gan nad yw’n ffordd draddodiadol o greu murlun oherwydd yr amgylchiadau. Mae gweithio gyda disgyblion grŵp Sgiliau Bywyd o Ysgol Bro Pedr yn arbennig ac maen nhw’n gweithio’n galed i gyfleu eu syniadau yn y sesiynau ar-lein ac yn eu darluniadau. Dwi wir yn mwynhau gweithio gyda nhw ar y prosiect.”

Mae’r prosiect hwn yn rhan o raglen cyfranogi a datblygu sgiliau Theatr Genedlaethol Cymru, sydd wedi cynnwys bron at 9,000 o ymgyfranogwyr ers dechrau 2020. Mae rhagor o wybodaeth am brosiectau cyfranogi’r cwmni ar gael ar wefan Theatr Genedlaethol Cymru.