Myfyriwr Diwinyddiaeth ac Athroniaeth yn cwblhau ei gradd ar ôl dychwelyd o America

“Mae Llambed yn gampws mor arbennig… mae’n hardd, yn fach ac yn unigryw.”

gan Lowri Thomas

Dechreuodd Celine Emily Louise Cuddihy sy’n wreiddiol o Gaerffili ond bellach yn byw yn Sir Benfro, ei thaith ym Mhrifysgol Llambed yn 2014 yn astudio BA mewn Diwinyddiaeth ac Athroniaeth. Penderfynodd Celine gymryd seibiant o bedair blynedd i astudio cwrs arall mewn ysgol Ddiwinyddol yn America, cyn dychwelyd eleni i gwblhau ei hastudiaethau yn Llambed.

Yn Gristion, roedd Celine eisiau astudio Diwinyddiaeth ac Athroniaeth mewn Prifysgol gan mai dyna oedd ei hoff bynciau yn yr ysgol.  Penderfynodd Celine astudio yn Llambed yn gyntaf am nifer o resymau. Ar ôl derbyn cynnig diamod gan y Brifysgol, a chan bod arni eisiau parhau â’i hastudiaethau yng Nghymru, nid oedd llawer o Brifysgol yn y wlad yn cynnig gradd Diwinyddiaeth/Athroniaeth, Llambed oedd ei dewis cyntaf, ac roedd y cwrs yn apelio iddi’n fawr.

Yn ôl Celine: “Mae Llambed yn gampws mor arbennig… mae’n hardd, yn fach ac yn unigryw. Mae’r dosbarthiadau’n fach, ac mae pawb yn adnabod ei gilydd. Os ydych chi am ddod yn arbenigwr yn eich maes, Llambed yw’r lle perffaith, oherwydd yn fy marn i, mae ansawdd yr addysgu mor uchel. Rydym yn gampws unigryw oherwydd mai ni yw campws Y Dyniaethau, ac fe gewch gymaint o addysgu manwl o ansawdd yma. Os ydych chi eisiau defnyddio’r Dyniaethau mewn ffordd sy’n elwa’r byd, rwyf wir yn credu mai Llambed yw’r lle i fynd – mae’r holl ddarlithwyr mor angerddol am eu pwnc, maen nhw’n eich gosod ar ben ffordd i’w gymryd i’r byd mawr, a’i ddefnyddio er da. ”

Penderfynodd Celine gymryd seibiant o’i hastudiaethau yn Llambed am dair blynedd er mwyn gallu astudio cwrs arall mewn Ysgol Ddiwinyddol Gristnogol uchel ei pharch ac enwog arall yn America. Pan ddaeth Celine nôl i Gymru, roedd yn teimlo bod angen iddi orffen ei gradd yn Llambed. Ar ôl dychwelyd i Lambed, penderfynodd Celine ymgorffori ei hastudiaethau yn America i’w gradd, drwy ysgrifennu ei thraethawd hir ar ei phrofiad o astudio yn yr Ysgol Ddiwinyddol Gristnogol yn America.

Mae Celine wedi mwynhau astudio yn Llambed yn fawr. Teimla bod y staff ar y cwrs wedi bod yn hawdd cysylltu â nhw bob tro ac yn barod i helpu ac yn frwdfrydig am eu pwnc, ac mae hynny wedi ei helpu wrth astudio: “Rwyf wir wedi mwynhau’r flwyddyn ddiwethaf hon, a’r hyn rwyf wedi dwlu arno yw’r ffordd y mae’r system o ddosbarthiadau bloc yn gweithio’n arbennig o dda. Cewch bedair neu bum wythnos ddwys o edrych ar bwnc, a gallwn gyfuno dosbarthiadau gyda phynciau eraill ond o safbwynt diwinyddol neu athronyddol… Rwy’n dwlu ar hynny! Rwyf wedi dysgu llawer o bethau newydd eleni nad oeddwn wedi meddwl y buaswn yn gallu dysgu amdanynt tu allan i’m disgyblaeth.”

Mae Celine wedi gweld gwahaniaeth mewn bywyd Prifysgol ar ôl ailymuno ar-lein ar gyfer ei hastudiaethau eleni o ganlyniad i gyfyngiadau Covid 19, o gymharu â byw ac astudio ar gampws pan ddechreuodd. Mae Celine yn meddwl bod addysgu ar-lein wedi dangos iddi’r hyn y mae’n gallu ei wneud: “Gwnes i ddim sylweddoli fy mod i’n gallu dysgu’n annibynnol iawn, a chael graddau mor dda yn ystod cyfnod anodd.”

O ganlyniad i drafferthion iechyd eleni, mae Celine wedi elwa o allu astudio gartref, ac mae’r Brifysgol wedi bod yn barod iawn i helpu iddi barhau gyda’i hastudiaethau.

Mae’r Brifysgol yn falch bod Celine wedi dychwelyd i gwblhau ei hastudiaethau yn Llambed. Meddai Bettina Schmidt, Athro mewn Astudio Crefyddau ac Anthropoleg:  “Bu’n bleser gweithio gyda Celine yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Roedd hi mor angerddol am ei hymchwil ar ffrwyth profiad crefyddol mewn Cristnogaeth Garismataidd. Mae ei thraethawd hir yn cysylltu ei phrofiad yn ystod ei chyfnod yn astudio dramor gyda hanes crefyddau Cymru yn berffaith. Roeddwn wrth fy modd bod gradd dosbarth Cyntaf wedi’i dyfarnu iddi ac rwy’n dymuno’n dda iddi ar gyfer y dyfodol.”

Mae dyfodol disglair o flaen Celine. Ar hyn o bryd, mae’n gwneud cais am swydd fel Offeiriad Anglicanaidd, ac ar ôl hyfforddiant diwinyddol pellach, mae’n gobeithio y bydd ei breuddwyd o gael ei hordeinio yn Offeiriad yn Eglwys Cymru yn dod yn wir.