Myfyrwraig Astudiaethau Tsieniaidd yn graddio gyda gradd dosbarth cyntaf

Mae’r agweddau mwy personol yn Llanbed wir yn gadael i chi ffynnu, i ddatblygu’ch sgiliau a’ch hunan

gan Lowri Thomas

Mae Ana Sadler o Ddwyrain Sussex wedi graddio gyda BA Astudiaethau Tsieineaidd o PCYDDS Llambed. Daeth o hyd i’r cwrs ar ôl cymryd blwyddyn allan o’i hastudiaethau blaenorol mewn prifysgol arall. Yn ystod y cyfnod hwnnw, penderfynodd ddysgu Mandarin i’w hun a arweiniodd at chwilio am brifysgol arall a oedd yn cynnig Astudiaethau Tsieineaidd a’r cyfle i ddysgu am Sinoleg – diwylliant a hanes Tsieina. Apeliodd Llambed ati gan ei fod yn gampws bach gydag agwedd bersonol iawn.

Cynigiodd y cwrs flwyddyn dramor yn Tsieina yn benodol i ganolbwyntio ar ddysgu iaith.

Meddai Ana: “Roedd llawer o wahanol elfennau i’r cwrs gradd y mwynheais nhw, mae wedi bod yn ddiddorol ac yn rhyfeddol i ddysgu am hanes, diwylliant ac iaith Tsieina! Ond alla’ i ddim dweud celwydd, fydd dim byd arall byth yn well na’r flwyddyn dramor yn Tsieina.”

Mae’r brifysgol wedi helpu Ana i ddatblygu yn academaidd, ond hefyd mae wedi ei helpu’n fawr i ddatblygu ei hannibyniaeth ei hun.

“Rwy’n credu ein bod yn lwcus iawn i gael ein lleoli ar gampws mor fach, ac yn bersonol mae hyn wedi fy helpu i dyfu yn ystod fy nghyfnod yn Llambed ac wedi fy nhroi’n unigolyn llawer mwy hyderus, yn fy ngwthio i wneud pethau fyddwn i ddim wedi eu hystyried o’r blaen, fel mae wedi gwneud gydag eraill rwy’ wedi cwrdd â nhw. Er bod y campws yn fach, mae Llambed yn cynnig llawer o gyfleoedd i fyfyrwyr os ydyn nhw’n barod i gymryd rhan, ac mae’r agweddau mwy personol wir yn gadael i chi ffynnu, i ddatblygu’ch sgiliau a’ch hunan.

“Rwy’ wedi newid llawer fel person dros y tair blynedd diwethaf a dreuliais yng Nghymru a’r flwyddyn a dreuliais yn Tsieina. Mae fy sgiliau academaidd hefyd wedi datblygu’n fawr, a dweud y gwir doeddwn i ddim yn fyfyrwraig o’r safon uchaf wrth wneud fy nghyrsiau TGAU a lefel-A, fodd bynnag mae’n ymddangos bod popeth wedi newid nawr fy mod yn y brifysgol ac wedi llwyddo i raddio gyda Dosbarth Cyntaf, rhywbeth fyddwn i byth wedi meddwl oedd yn bosib cyn i mi ddod i’r brifysgol.”

Mae wedi bod yn flwyddyn heriol i fyfyrwyr eleni oherwydd y pandemig Covid-19 ac mae cwblhau gradd mewn cyfnod mor anodd yn rhywbeth na fydd Ana byth yn anghofio.

“Un atgof fydda’ i byth yn ei anghofio yw treulio’r Nadolig ar y campws eleni a’r cymorth ardderchog a roddodd y tîm llety, y porthorion ac Undeb y Myfyrwyr i mi a myfyrwyr eraill a arhosodd dros gyfnod y Nadolig.”

Yn ôl Ana, mae gan y brifysgol nifer o systemau cymorth yn eu lle i helpu myfyrwyr.

“Mae’r darlithwyr yn mynd uwchlaw a thu hwnt i’ch helpu i wneud y gwaith gorau y gallwch ei wneud. Mae’r tîm llety a’r porthorion ar gampws yn gwneud llawer i gynorthwyo pob myfyriwr ar y campws ac mae’r porthorion ar gael i ni bob dydd, ni waeth pa broblem sy gyda chi. Yn olaf, mae Undeb y Myfyrwyr yn un arall o’r systemau cymorth mwyaf i’r corff myfyrwyr, bob amser yn mynd uwchlaw a thu hwnt er lles y myfyrwyr ni waeth pa fater all fod gyd chi neu beth bynnag y gallwch fod yn brwydro ag ef.”

Meddai Cyfarwyddwr Rhaglen y BA Astudiaethau Celtaidd, yr Athro Cysylltiol Thomas Jansen: “Mae Ana wedi bod yn fyfyrwraig ardderchog yn ystod cyfnod ei chwrs gradd. Roedd ei phenderfyniad i astudio Tsieinëeg yn Tsieina yn ystod ail flwyddyn ei gradd 4-blynedd yn ei galluogi i ennill rhuglder yn Tsieinëeg a chael profiad uniongyrchol o’r wlad. Mae Ana a’i dosbarth wedi dangos y gallan nhw gwrdd â’r heriau sy’n dod o fyw a gweithio mewn amgylchedd diwylliannol ac ieithyddol sy’n wahanol i’w rhai eu hunain. Mae’r sgiliau a nodweddion personol hyn yn eu gwneud nhw’n gyflogadwy iawn a byddan nhw o fudd iddyn nhw gydag unrhyw yrfa byddan nhw’n dewis mynd i mewn iddi.”

Mae Ana yn cadw ei hopsiynau ar agor at y dyfodol. Mae’n cyfaddef y bydd y sgiliau a’r wybodaeth mae hi wedi eu datblygu yn agor llawer o ddrysau iddi ni waeth pa lwybr y bydd hi’n dewis ei ddilyn.,

“Mae llawer o gyfleoedd sy ar agor i mi nawr efallai na fydden nhw ddim wedi bod heb y profiad o fynd i’r brifysgol,” meddai.