Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd 2021

Rhai o fyfyrwyr Prifysgol Abertawe sydd wedi bod yn llunio Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd eleni.

gan alphaevans

Mae Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd wedi ei hanfon ar ran pobl ifanc Cymru at bobl ifanc yng ngweddill y byd ar y 18fed o Fai yn flynyddol ers 1922.

Rhai o fyfyrwyr Prifysgol Abertwae sydd wedi bod yn llunio Neges Heddwch ac Ewyllys Da Urdd Gobaith Cymru eleni, gyda’r neges bwerus sydd wedi ei seilio ar y thema ‘Cydraddoldeb i Ferched’.

Yn wreiddiol, dyma oedd y neges oedd fod i’w chyhoeddi yn 2020, ond yna daeth y cyfnod clo a phenderfynwyd newid y Neges. Yna eleni, roedd yn addas yn yr hinsawdd bresennol i ail ymweld â phwnc sydd mor bwysig i sicrhau dyfodol llewyrchus a theg.

Rôl myfyrwyr Prifysgol Abertawe fel fi oedd cydweithio gydag Academi Hywel Teifi, y bardd a’r awdur Llio Maddocks a Gwennan Mair, Cyfarwyddwr Ymgysylltu Creadigol Theatr Clwyd er mwyn paratoi’r neges i’w chyhoeddi i’r byd.

Yn dilyn ysgrifennu’r Neges, sydd wedi ei chyfieithu i dros 65 o ieithoedd, buodd y myfyrwyr yn recordio’r Neges yn Abertawe ac yn y Bala.

Yn dilyn cyhoeddi’r Neges, bydd y myfyrwyr yn cynorthwyo gyda’i rhannu a’i lledaenu ar draws y cyfryngau a’r cyfryngau cymdeithasol.