Newyddion Menter Gorllewin Sir Gâr

Gwybodaeth am weithgareddau Nadoligaidd arbennig y Fenter Iaith.

Gwawr Williams
gan Gwawr Williams

O dan yr amgylchiadau presennol, mae Menter Gorllewin Sir Gâr yn gweithio i ddarparu gweithgareddau a sesiynau i chi allu parhau i gymdeithasu a byw yn Gymraeg yn ddigidol ac wyneb yn wyneb yn unol â chyfarwyddiadau’r llywodraeth parthed cyfyngiadau.

Wrth i ni gynllunio ar gyfer y dyfodol rydym eisiau clywed eich syniadau chi: https://tinyurl.com/7jaty8dt

Adweitheg Babi/Plentyn:

Am y tro cyntaf erioed, mae’r Fenter yn cynnig dosbarthiadau Adweitheg Babi/Plentyn. Mae’r gyfres o bedair wythnos yng ngofal Meleri Brown o Hafan Holistaidd yn cael eu cynnal yn Neuadd Gymunedol Ysgol Peniel. Mae’r gyfres hon yn llawn ond y bwriad yw cynnal cyfres arall yn y flwyddyn newydd. Os oes diddordeb gyda chi i fynychu’r sesiynau, cysylltwch gydag alma@mgsg.cymru i gofrestru.

Coffi a Chlonc:

Mae’r sesiynau yma sydd wedi cael eu cynnal ers cychwyn y cyfnod clo yn parhau. Dyma gyfle i ddod ynghyd i sgwrsio a chymdeithasu dros baned bob bore dydd Iau am 10.30yb ar Zoom. Mae’r weithgaredd yma yn addas ar gyfer dysgwyr neu siaradwyr rhugl. I dderbyn y linc cysylltwch gyda ceris@mgsg.cymru.   

Clybiau Darllen:

Mae Menter Gorllewin Sir Gâr yn trefnu dau glwb darllen sy’n cwrdd unwaith y mis ar Zoom. Mae clwb darllen i oedolion yn cwrdd bob ail nos Fawrth y mis am 7yh a chlwb darllen i ddysgwyr yn cwrdd ar nos Fawrth olaf pob mis am 7yh. Dyma gyfle i ddod ynghyd i gymdeithasu a thrafod nofelau cyfoes. Am fwy o wybodaeth neu i gofrestru cysylltwch gyda ceris@mgsg.cymru

NEWYDD! Helfa Drysor Nadolig:

Mae’r Fenter a’r Atom yn trefnu rhywbeth ychydig yn wahanol dros yr ŵyl eleni. Rydym wedi lansio Helfa Drysor Nadoligaidd ar hyd Stryd y Brenin, Caerfyrddin yn ystod yr wythnosau yn arwain at y Nadolig. Yn cychwyn ar yr 20fed o Dachwedd hyd at y 3ydd o Ionawr. Er mwyn derbyn copi o’r helfa anfonwch neges at ymholiad@mgsg.cymru.

NEWYDD! Gweithdy Creu Torch Nadolig:

Edrychwn ymlaen at noson ar Zoom eleni eto gyda Wendy Blodau Blodwen ar y 3ydd o Ragfyr am 7yh pan fyddwn yn creu torch Nadoligadd. £35 y pen yw cost y sesiwn a bydd angen cysylltu i gofrestru erbyn y 25ain o Dachwedd er mwyn debryn eich pecyn o flaen llaw. Cysylltwch gydag alma@mgsg.cymru i gofrestru.

NEWYDD! Noson Gyd-goginio Nadolig:

Ymunwch â ni am noson arddangosfa parseli selsig a llugaeron a sesiwn cyd-goginio boncyff siocled ar Zoom gyda Lloyd Henry ar yr 8fed o Ragfyr am 7yh, am ddim. I gofrestru, cysylltwch gyda ceris@mgsg.cymru.

NEWYDD! Groto Nadolig:

Bydd Siôn Corn yn ymweld â Hendygwyn-ar-Daf a Phencader mewn groto eleni. Canolfan Hywel Dda, Hendygwyn ar y 4ydd o Ragfyr a Phafiliwn Pencader jar yr 11eg o Ragfyr, rhwng 10yb-12yp. Cyfle am sgwrs gyda’r dyn ei hun a derbyn anrheg. £2 y plentyn a bydd modd bwcio slot i hyd at 6 person. Cysylltwch gyda ceris@mgsg.cymru am le yn Hendygwyn a gwyneth@mgsg.cymru am le ym Mhencader.

Cyfryngau Cymdeithasol:

Gyda’r cyfyngiadau yn newid o hyd, mae gwaith y fenter yn newid gydag amryw o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn cael eu cynnal ar-lein. Am y diweddaraf, ewch i’n cyfryngau cymdeithasol:

Facebook – Menter Gorllewin Sir Gar

Trydar – @MenterGSG

Instagram – @MenterGSG

E-bost – ceris@mgsg.cymru  neu am fwy o wybodaeth ar sut i gyrraedd y platfformau yma cysylltwch gyda Ceris ar y ffôn: 07939 962042