Newyddion Menter Gorllewin Sir Gâr

Yn gweithio i ddarparu gweithgareddau a sesiynau i chi allu parhau i gymdeithasu a byw yn Gymraeg.

Gwawr Williams
gan Gwawr Williams

Newyddion Menter Gorllewin Sir Gâr

O dan yr amgylchiadau presennol, mae Menter Gorllewin Sir Gâr yn gweithio i ddarparu gweithgareddau a sesiynau i chi allu parhau i gymdeithasu a byw yn Gymraeg yn ddigidol ac wyneb yn wyneb yn unol â chyfarwyddiadau’r llywodraeth parthed cyfyngiadau.

Dydd Santes Dwynwen:

Yn flynyddol mae Menter Gorllewin Sir Gâr a Chyngor Tref Caerfyrddin yn cynnal cystadleuaeth Dylunio Carden Santes Dwynwen gydag ysgolion ar draws y sir. Hoffwn ddiolch i’r cannoedd sydd wedi cystadlu eleni a diolch yn fawr iawn i Maer y Dref, Cyng Gareth Jones am feirniadu. Llongyfarchiadau mawr i’r canlynol;

Cyfnod Sylfaen: Poppy Broekhoven

Cyfnod Allweddol 2: Tyla-Rose Jones

Uwchradd: Daniel Whithouse

Cystadleuaeth addurno stand laeth:

Am y tro cyntaf eleni fe wnaeth Menter Gorllewin Sir Gâr a Chlybiau Ffermwyr Ifanc Sir Gâr lansio cystadleuaeth addurno stand laeth ar y thema Gwanwyn. Hoffem ni longyfarch pawb gystadlu a diolch i chi am fod yn greadigol dros gyfnod y Pasg. Llongyfarchiadau mawr i Geriant Lloyd ar ennill y gystadleuaeth a dyma ei stand laeth hyfryd.

Cystadleuaeth Dylunio Arfbais a Gwisg Gymreig Fodern:

Eleni am y tro cyntaf trefnwyd cystadleuaeth ar y cyd rhwng Menter Gorllewin Sir Gâr a Chyngor Tref Caerfyrddin i ddylunio arfbais a gwisg Gymreig fodern. Hoffwn ddiolch i’r cannoedd sydd wedi cystadlu eleni a diolch yn fawr iawn i Maer y Dref, Cyng Gareth Jones am feirniadu. Llongyfarchiadau mawr i’r canlynol;

Dylunio arfbais:

1af: Grace C-E

2il: Macsen Spicer

3ydd: Summer H

Dylunio gwisg Gymreig fodern:

1af: Elsie Lewis

2il: Lili Williams

3ydd: Caitlin Crewe

Cornel Creu:

Cynhaliwyd sesiwn Cornel Creu Pasg ar y cyd â’r Atom ar y 27ain o Fawrth. Roedd e’n fore llwyddiannus a chyfle i blant a’u teuluoedd wneud gwaith crefft, canu caneuon, helfa a stori ar thema’r Pasg.

Dywedodd rhiant: Diolch am gynnig sesiwn yn ystod y clo i allu gwneud rhywbeth creadigol gyda’r plant, ni’n edrych ymlaen at y sesiwn nesaf yn barod.

Parti Pasg Siani Sionc:

I ddathlu’r Pasg eleni fe wnaeth Menter Gorllewin Sir Gâr, Menter Cwm Gwendraeth Elli a Menter Dinefwr cyflwyno Parti Pasg gyda Siani Sionc ar Zoom. Cyfle arbennig i deuluoedd ymuno i ddawnsio, canu a chael llawer o sbri gyda Siani Sionc ar thema’r Pasg.

Dywedodd rhiant: Diolch i bawb bu yng nglŵm gyda threfnu’r parti hwn, fe wnaeth y bechgyn gwir fwynhau dawnsio, diolch am gynnig dathliad Cymraeg hollol saff i ni fel teulu.

Noson Gofal Croen a Harddwch

Ar nos Wener 9fed Ebrill cafwyd noson hyfryd yng nghwmni Andrea Davies sy’n gwerthu nwyddau gofal croen a harddwch. Cafwyd arddangosfa gyda hi ar sut i wisgo colur ar gyfer y dydd a cholur ar gyfer noson allan. Dangoswyd i’r mynychwyr hefyd pa gynnyrch ddylen nhw fod yn ei ddefnyddio er mwyn sicrhau’r gofal gorau posib o’r croen. Diolch i Andrea am rannu’i harbenigedd gyda ni mewn ffordd glir a hwyliog ac i bawb a fynychodd y noson.

Taith Fygi:

Rydym yn gyffrous iawn i gyhoeddi ein bod yn ail-gychwyn ar ein sesiynau teithiau bygi poblogaidd yn y dair ardal, sef Hendygwyn-ar-Daf, Castell Newydd Emlyn a Chaerfyrddin. Bydd y teithiau yn ymgynnull am 10:15yb ac yn cychwyn am 10:30yb ym mhob ardal. Ymunwch â ni am gyfle i sgwrsio, gwneud ychydig o ymarfer corff ac am wac hamddenol. Mae’n angenrheidiol i bawb gofrestru o flaen llaw gan fod nifer cyfyngedig yn gallu mynychu yn dilyn canllawiau’r llywodraeth. Cysylltwch gyda gwawr@mgsg.cymru i gofrestru.

Sesiynau Cymorth Digidol:

Rydym fel Menter yn cynnig cymorth digidol. Gallwn gynnig cymorth i chi ddefnyddio unrhyw ddyfais neu i’ch helpu i ddatblygu unrhyw sgiliau digidol. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cysylltu gyda ni a gallwn gynnig cymorth 1 i 1 i chi dros y ffôn neu dros Zoom. Os oes gennych unrhyw anghenion eraill cysylltwch gyda ni am sgwrs. Cysylltwch ar 07939 962042 neu e-bostio ceris@mgsg.cymru i drefnu eich sesiwn.

Byddwn yn parhau gyda’n darpariaeth o eitemau a chyfresu difyr megis ein cystadleuaeth ffotograffiaeth wythnosol, ein fideos amser stori a chreu crefft, ap yr wythnos a chwis cyflym. Yn ogystal â chyflwyno cyfresu newydd dros y gwanwyn.

Cyfryngau Cymdeithasol:

Gyda’r cyfyngiadau yn newid o hyd, mae gwaith y fenter yn newid gydag amryw o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn cael eu cynnal ar-lein. Am y diweddaraf, ewch i’n cyfryngau cymdeithasol:

Facebook – Menter Gorllewin Sir Gar

Trydar – @MenterGSG

Instagram – @MenterGSG

E-bost – ceris@mgsg.cymru neu am fwy o wybodaeth ar sut i gyrraedd y platfformau yma cysylltwch gyda Ceris dros y ffôn: 07939 962042.