49. Nicola Harries, Cascade – y flwyddyn a fu

Dyma’r 49fed mewn cyfres o gyfweliadau â gweithwyr lleol yn trafod effaith y cyfnod clo.

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones

Aeth dros flwyddyn ers dechrau’r Cyfnod Clo, ac er mwyn nodi hynny mae Clonc360 yn holi gweithwyr lleol am effaith cyfyngiadau Covid-19 arnynt yn y flwyddyn.

Mae Nicola Harries a’r teulu yn berchen siop flodau Cascade sydd ar Stryd Fawr, Llanbedr Pont Steffan. Diolch yn fawr Nicola am ateb y cwestiynau.  

Beth yw’r heriau mwyaf chi wedi’u hwynebu yn y flwyddyn ddiwethaf?

Ein her fwyaf dros y deuddeg mis diwethaf oedd addasu ein dulliau o archebu blodau oherwydd nad oedd cwsmeriaid yn medru galw yn y siop. Nid yw blodau yn cadw’n ffres am gyfnod hir a bu rhaid sicrhau nad oeddem yn prynu gormod i osgoi gwastraff. Nid oedd yn bosibl i ni archebu blodau o’r Iseldiroedd yn ystod y cyfnod clo cyntaf. Bu’n her dod o hyd i gwmni oedd yn medru ein cyflenwi gyda blodau ffres bob yn eil ddydd.

Beth sydd wedi newid eleni a sut ’rydych chi wedi gorfod addasu?

Beth sydd heb newid dros y flwyddyn ddiwethaf! Pan gawsom ddychwelyd i ail agor y siop, bu rhaid arfer gyda sgriniau a chyfyngu ar y nifer yn y siop i gadw pawb yn  ddiogel. Mae hynny’n anodd pan fod teuluoedd angen bod gyda’i gilydd yn trafod blodau megis ar gyfer angladd.

Bu rhaid newid ein dulliau o dderbyn taliadau gan gwsmeriaid oedd yn archebu o gartref er mwyn eu cadw’n ddiogel. Defnyddir trefn ‘clicio a chasglu’ a darparwyd mwy o le dan do i gwsmeriaid fedru cyfarfod gan gadw’r pellter priodol. Darparwyd gwasanaeth ehangach er mwyn galluogi cwsmeriaid i ddanfon blodau at eu hanwyliaid gan na fedrent ymweld â hwy.

Bu torri nôl yn oriau agor siopau yn sgil lleihad yn nifer y cwsmeriaid yn y dref. Rydym wedi addasu i ffyrdd newydd o siopa, sydd yma i aros.

Beth ydych chi wedi dysgu dros y cyfnod clo?

Gall bywyd newid dros nos! Rydym yn y busnes ers 30 mlynedd, gan ddilyn yr un patrwm o’r naill flwyddyn i’r llall. Mi wnaethom fwynhau’r cyfle i gael amser i’w dreulio gyda’n gilydd adref ac yn yr ardd. Cawsom werthfawrogi harddwch yr ardal ’rydym mor ffodus o fod yn byw ynddi.

Mae trefn ein busnes wedi newid. Mae mwy yn prynu blodau ymlaen llaw a thrwy ein gwefan gyda llai yn ymweld â’r siop. Oriau agor presennol y siop yw 10.00 – 2.00 dydd Llun i ddydd Gwener. Gellir archebu ar ein gwefan unrhyw adeg o’r dydd a’r nos. Trosglwyddir galwadau ffôn i rif ffôn symudol y busnes.

Mae pobl yn bendant wedi newid eu ffyrdd o siopa ac mae Steve a mi yn mwynhau patrwm newydd ein horiau gwaith.