Noson i Godi Calonnau yn Llanfair Clydogau

Adloniant byw i bawb yn eu ceir yn ystod cyfyngiadau’r Coronafeirws.

gan Dan ac Aerwen

Fel arfer ceir gweithgarwch cymdeithasol iach ym mhentref Llanfair Clydogau o farbyciws i siaradwyr gwadd a nosweithiau codi arian.  Cynhelir Sioe Arddwriaethol a Gŵyl Gwrw blynyddol yn y pentref ond oherwydd y pandemig mae calendr digwyddiadau’r ardal wedi diflannu bron yn llwyr fel pob ardal arall.

Mae pobol Llanfair yn lwcus tu hwnt fod dau berson yn ein cymuned yn gantorion proffesiynol. Mae Ian a Sylvia, Ty Nant, wedi symud o Loegr i fyw yn ein plith ac yn ystod yr amser byr maent wedi cyfrannu tipyn i fywhau bywyd y pentref gyda’u canu swynol.

Trefnwyd noson arbennig yn yr awyr agored yn ddiweddar i bobol ymgynnyll yn eu ceir i wrando arnynt yn canu carolau a chaneuon nadoligaidd. Gyda phawb yn cadw y pellter swyddogol ac yn gwisgo mygydau, cawsom awr a hanner o adloniant bendigedig.

Er mwyn iddynt gael hoe yn y canol daeth Sara Bee, Heulwen, ymlaen i ganu am ugain munud, a hynny yn swynol dros ben. Cafwyd noson i’w chofio gyda phawb yn mynd adref â’u calonnau yn llawer mwy ysgafn.

Diolch iddynt oll am eu cyfraniad ac edrychwn ymlaen i’r amser pan fyddant yn gallu ein diddanu ni yn y neuadd unwaith eto.