On’d oedden nhw’n ddyddiau da?

Trigolion Llanybydder yn hel atgofion!

gan Gwyneth Davies

Dr. Tun

Gobeithio eich bod chi wedi mwynhau rhan gyntaf ein hatgofion ni o Lanybydder yn rhifyn mis Medi o Clonc. Hoffwn ddiolch y tro hwn i Decca Thomas, Jean Davies, Irene Jones, Dewi Davies a Mary Thomas am bob cymorth. Ymlaen â’r daith felly!

Bob Gaeaf, cynhaliwyd dramâu yn Neuadd yr Eglwys a’r Neuadd fach neu ‘Mart Hall’ fel y’i gelwid a deuai cwmnïau gwahanol yno yn eu tro i ddiddori trigolion y fro. Deuai cwmnïau dramâu o Loegr i berfformio yn y ‘Mart Hall’ a chofia Mary eu bod nhw’n berfformiadau safonol tu hwnt. Doedd dim angen i’r actorion chwilio am lety gan fod yna bentrefwyr caredig yn fodlon rhoi lloches iddynt. Roedd pob perfformiad yn tynnu cynulleidfa luosog ond ‘Y ferch o  Gefnydfa’ yn Neuadd yr Eglwys a gafodd yr argraff fwyaf ar Deca. Yn y ‘Mart Hall’ ar ŵyl San Steffan, yn ôl Dewi, arferai Capel Aberduar gynnal dramâu hefyd. Ar safle’r mart presennol, safai’r neuadd fach  a Dr Maung Sein Tun o Burma  oedd y dyn a fu’n gyfrifol am ei chodi. Meddyg lleol oedd Dr Tun, yn ôl ei alwedigaeth, ac roedd e’n ŵr hynaws a charedig. Cofia Jean yn arbennig am y dawnsfeydd a gynhaliwyd yn y neuadd fach ar Noswyl Calan a’r hwyl a gafwyd wrth wisgo gwisg ffansi. Yn Nhachwedd 1948 ganwyd Y Tywysog Siarl ac enw’r nyrs a ofalodd amdano yn yr ysbyty oedd Helen Wroe. Doedd dim angen i Jean Davies feddwl rhyw lawer am ei gwisg ffansi’r flwyddyn honno diolch i’r drefn gan fod gwisgo lan fel nyrs yn hawdd iawn. Felly ar Noswyl Calan 1948, pwy gerddodd i mewn i’r ddawns yn Llanybydder ond neb llai na Helen Wroe!

Mynnwch gopi o rifyn Hydref Papur Bro Clonc er mwyn darllen mwy!