Parcio am ddim cyn y Nadolig

Bydd meysydd parcio Talu ac Arddangos y Cyngor yn Llambed am ddim ar y tri dydd Sadwrn cyn y Nadolig. 

gan Siwan Richards

Cwmins Llambed. Llun: geograph.org.uk

Bydd costau parcio ym meysydd parcio Talu ac Arddangos y cyngor yn cael eu hepgor ar 4, 11 a 18 Rhagfyr 2021.

Yn Llambed, mae hyn yn cynnwys y Rookery, Cwmins a Stryd y Farchnad.

Y Cynghorydd Dafydd Edwards yw’r Aelod Cabinet ar gyfer Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol, Tai a Chyswllt Cwsmeriaid. Dywedodd: “Wrth i fusnesau Ceredigion baratoi ar gyfer y Nadolig, mae’n rhaid iddynt wneud hynny wrth gystadlu yn erbyn cwmnïau rhyngwladol mawr ar-lein. Rydym eisiau gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi busnesau Ceredigion, a gobeithio y bydd parcio am ddim ar ddydd Sadwrn yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig yn perswadio mwy ohonom i siopa’n lleol. Mwynhewch yr hyn sydd gan fusnesau gwych Ceredigion i’w gynnig.”

Bydd meysydd parcio eraill y Cyngor ar draws y sir hefyd am ddim.