Party Ring y cyfieithydd o Gwmann

Ymatebion Tomos Rhys i gwestiynau Cadwyn y Cyfrinachau

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Yn rhifyn Ebrill Papur Bro Clonc mae Tomos Rhys o Gwmann yn rhannu rhai o’i gyfrinachau yng ngholofn ‘Cadwyn y Cyfrinachau’.

Petai ef yn fisged, byddai’n hoffi bod yn Party Ring gan ei fod yn joio parti a chymdeithasu gyda ffrindiau.

Cyfieithydd yw Rhys yn ôl ei alwedigaeth a’r peth gorau am ei swydd yw’r amrywiaeth o ran gwaith bob dydd, ond y peth gwaethaf am ei swydd ar hyn o bryd yw gorfod gweithio o gartref yn hytrach nag o’r swyddfa.

Pan oedd yn blentyn, roedd am fod yn chwaraewr rygbi proffesiynol ar ôl tyfu a’i gyfrinach bresennol i gadw’n heini yw chwarae rygbi i Glwb Rygbi Llambed.

Y peth mwyaf rhamantus a ddigwyddodd iddo erioed oedd mynd ar daith i Amsterdam gyda Manon ei gariad ar ei ben-blwydd yn 21 oed, ond yr un peth y byddai’n dymuno newid am ei hunan yw atal ei groen rhag llosgi yn yr haul!

Ond beth am gwestiynau eraill fel: Pryd aeth e’n grac ddiwethaf?  Ar beth y gwnaeth e orwario arno fwyaf? Beth sy’n codi ofn arno?  Beth oedd y celwydd diwethaf iddo ddweud?

Gallwch ddarganfod mwy am Tomos Rhys yn rhifyn Ebrill Papur Bro Clonc.