Dai “PC330” Evans – Cymeriad Bro

Cymeriad Bro mis Gorffennaf ym Mhapur Bro Clonc yw Dai Evans o Lambed.

gan Sara Elan Jones
Dai Evans yn ei swydd fel Plismon

Yn wreiddiol o Ddrefach ym mhlwyf Llanwenog, sonia bod yr holl flynyddoedd o weithio’n ddiwyd fel plismon yn Llambed wedi bod yn rai gwerth chweil gan fod cael adnabyddiaeth o’r gymuned, y bobl a’r ardal yn sicr wedi bod yn gymorth mawr iddo yn ei waith.

Yn ôl Dai: “roedd bywyd yn gallu bod yn gaeth oherwydd oriau clwm y swydd, ond er hynny rwyf wedi joio mas draw” ac wrth iddo adrodd straeon cofiadwy o’i amser yn yr heddlu, cawn gipolwg o’r sgiliau a ddysgodd a’r cyngor sydd ganddo i fod yn blismon llwyddiannus wrth ddarllen drwy’r golofn ‘Cymeriadau Bro’ y mis hwn.

Yn ogystal â bod yn gynrychiolydd i dros gant o heddweision yn Aberteifi, Llambed, Aberaeron ac Aberystwyth yng nghyfarfodydd Ffederasiwn yr Heddlu am dair mlynedd ar ddeg ac wedi derbyn gwobr am ei “wasanaeth hir” yn yr heddlu, un o brif ddiddordebau Dai ar hyd y blynyddoedd yw prynu a gwerthu eitemau bychain ac y mae hyn wedi parhau i fynd â’i fryd hyd heddiw.

Os oes diddordeb gennych ddarllen mwy am y plismon poblogaidd, prynwch y copi diweddaraf o Bapur Bro Clonc, sydd ar gael nawr yn y siopau lleol.