Tro pedol mewn penderfyniad i ailagor Canolfan Hamdden Llambed

Canolfan Hamdden a Phwll Nofio Llambed i ailagor yn ystod wythnos y 7fed o Fehefin.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Cyhoeddodd Cyngor Sir Ceredigion y prynhawn ‘ma eu bod wedi adolygu dyddiadau ailagor eu cyfleusterau hamdden yn y sir.

”O ganlyniad i’r cyfraddau heintiau cyfredol yn y sir a’r cyngor diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gwnaed penderfyniad i ddod a dyddiad ailagor y ddarpariaeth chwaraeon dan do a gweithgaredd corfforol yng nghyfleusterau a weithredir gan Gyngor Sir Ceredigion ymlaen.”

Adroddwyd ar wefan Clonc360 wythnos yn ôl y byddai Canolfan Hamdden a Phwll Nofio Llambed ddau fis yn hwyrach na chanolfannau hamdden siroedd eraill yn ailagor.  Ers hynny cafwyd dros 500 o lofnodion ar ddeiseb yn galw ar y cyngor i ailagor canolfannau hamdden y sir er lles iechyd corfforol a meddyliol y trigolion.

Dyma’r amserlen wedi ei ddiweddaru.

  • Cerdded er Lles – 17 Mai
  • Dosbarthiadau Ymarfer Corff Awyr Agored; Defnydd sefydliadau cymunedol o Gyfleusterau Awyr Agored gan gynnwys Caeau Pob Tywydd (Llambed, Ysgol Bro Teifi a Synod Inn) a Meysydd Chwarae – 28 Mai
  • Cyfleusterau Hamdden Dan Do; Canolfan Hamdden Aberaeron; Canolfan Hamdden Llanbedr Pont Steffan; Pwll Nofio Llanbedr Pont Steffan; a Neuadd Chwaraeon Ysgol Penglais gan gynnwys defnydd gan Sefydliadau Cymunedol – yr wythnos yn dechrau 07 Mehefin ymlaen.
  • Mae ailagor yn parhau i ddibynnu ar y ffactor nad oes cynnydd sylweddol yn nifer yr achosion yn y sir.

Bydd gwybodaeth bellach ar gael ar wefan Ceredigion Actif a thudalennau Facebook, Twitter ac Instagram.

Ychwanega datganiad y cyngor “Diolch yn fawr i holl ddefnyddwyr y cyfleusterau yma am ddeall y sefyllfa yn ystod yr amserau heriol hyn. Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu yn ôl i’n cyfleusterau a’n sesiynau gweithgaredd.”

Dyma benderfyniad i’w groesawu felly.  Apelir ar ddefnyddiwr i gymryd pob gofal wrth ddychwelyd.  Mae cyfleusterau bowlio Llambed wedi ailagor eisoes gyda mesurau ymbellhau a phrosesau glanweithdra newydd yn eu lle.  Bydd hi’n braf gweld Canolfan Hamdden a Phwll Nofio Llanbed yn dychwelyd i ryw fach o normalrwydd hefyd.  Mwynhewch gadw’n heini unwaith eto.