Pencampwr Enduro Prydain

Sion Aled Evans o Gwmann yn cael ei goroni yn Bencampwr Enduro Ieuenctid Prydain 2021

Nia Wyn Davies
gan Nia Wyn Davies

Bu yn achos dathlu i Sion Aled Evans o Gwmann yn ddiweddar wrth iddo gael ei goroni yn Bencampwr Ieuenctid Enduro Prydain am 2021.

Mae Sion wedi teithio ar hyd a lled y wlad yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn cystadlu’n llwyddiannus mewn rasus motocross ac enduro. Ond heb os, mae cipio teitl Pencampwr Prydain am y tro cyntaf yn uchafbwynt mawr iddo.

Cynhaliwyd y bencampwriaeth eleni rhwng mis Ebrill a mis Hydref a rhaid oedd teithio yn ystod y tymor i gystadlu  ar draciau yn Sir Amwythig, Northampton, Dorset, Canolbarth Lloegr a Phowys. Gan ddechrau’r flwyddyn yn gryf daeth tymor Sion i ben yn annisgwyl pan dorrodd ei goes ym mis Medi wrth rasio motocross yn Rhayader. Serch hynny, trwy ennill 6 allan o’r saith ras gyntaf yn y gyfres Brydeinig ar gefn ei feic Husqvarna 125cc, agorodd Sion fwlch o 44 pwynt ar ei wrthwynebydd agosaf a sicrhau na allai neb ei ddal am y bencampwriaeth yn y ddwy ras a oedd yn weddill o’r tymor, i’w cynnal ym mis Hydref.

Uchafbwynt arall i Sion, sy’n rasio i Dim Enduro PAR HOMES tan hyfforddiant Wyn Hughes o Lanidloes, oedd cipio Pencampwriaeth Enduro Cymru ym mis Awst. Llwyddodd i ennill pob ras yn y gyfres genedlaethol a gynhaliwyd yng Nghanolbarth Cymru yn ystod misoedd yr Haf.

Wrth edrych i’r dyfodol, mae Sion, sy’n 16 oed, yn gobeithio dilyn ôl traed dau o reidwyr enduro enwocaf yr ardal sef Calvin Williams ac Aled Williams o bentref Cwmann, a chystadlu ar y lefel uchaf yn erbyn goreuon y Byd Enduro.

Cyflwynir tlws Pencampwr Prydain iddo mewn seremoni wobrwyo a gynhelir gan yn Rugby, Canolbarth Lloegr, ym mis Ionawr. Llongyfarchiadau mawr Sion a dymuniadau gorau wrth i ti baratoi ar gyfer y tymor i ddod.