Pencampwyr Beicio Diogel yr Wythdegau

Dylanwad PC Peter Hynd ar gymaint ohonon ni blant yr ardal.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
73630BE0-A681-4DA3-A815

1981: Tîm Iau – Dylan Lewis, Gwyndaf Owen, Joanna Davies, Rhian Davies a Gethin Jones. Tîm hŷn – Gary Scott, John Rogers, Andrew Scott, Emyr Davies a Debbie Williams.

EA552F00-4076-4018-AE40

1982: Tîm Iau – Dylan Lewis, Joanna Davies, James Spate, Stephen Cooper ac Alun Williams.

A33B3945-DCE9-4DBD-939C

1983: Tîm Iau – Martin Owens, Alun Williams, Dylan Lewis, Menna Evans a Kevin Jones. Tîm Hŷn yn fuddugol – Stephen Cooper, Gary Scott, Rhian Davies, James Spate a Gethin Jones.

3A25321D-BC8B-4340-8699

Llun a ymddangosodd yn y Western Mail ym 1983 oherwydd mai Andre Scott oedd y rheolwr tiÎm ifancaf a hynny ond yn 15 oed.

D119528A-6B30-4F6E-B2D4

1984 yn ennill yr adran iau a’r adran hŷn.

9E73CD2E-017B-47B5-A5C8

1986: Tîm Iau yn ail – Dylan Hughes, Hywel Ifans, Dafydd Lewis, Cheryl Jones a Mark Richards.

7605C0C1-AD58-44C0-96A8

1986: Tîm Hŷn – Wendy Jones, Rhian Davies, Eleri Morgan, Gethin Jones a Robert Jones.

EF6596EC-D66F-4850-9FA4

1988: Alun Williams a Dylan Lewis a ddaeth yn ail fel tîm yn reidio moped yng Nghystadleuaeth Genedlaethol RoSPA yn Ysgol Yrru Harrlow, fel yr adroddwyd ym Mhapur Bro Clonc.

1988: Dafydd Lewis yn dechrau ar brawf y ffordd fawr yng Nghystadleuaeth Cymru yn RAF Sain Tathan.

16B6E2FB-E690-4434-88E8

1985: Martin Owens yn cystadlu yng Nghystadleuaeth Genedlaethol RoSPA yng Nghanolfan Yrru Harrow.

16F73AF4-4A73-4A18-87E4

1982: Y Tîm Iau yn eu tracwisgoedd porffor yn paratoi i gystadlu yng Nghystadleuaeth Cymru yn RAF Sain Tathan.

Faint ohonoch chi a lwyddodd mewn prawf beicio yn yr ysgol?  Oes rhai ohonoch yn cofio PC Peter Hynd a fu’n hyfforddi cannoedd o blant mewn ysgolion lleol i feicio’n ddiogel yn ogystal â mynd â thimoedd i gystadlu yn Sain Tathan a Harrow?

Heddwas yn Llanbed am 18 mlynedd oedd Peter Hynd ac ef oedd hyfforddwr Tîm Dyfed ar gyfer Cystadleuaeth Beicio Diogel Cymru.  Ond disgyblion yr ardal hon oedd aelodau Tîm Dyfed bob blwyddyn ac roedd hynny oherwydd ymrwymiad Peter Hynd.

Arferem dreulio boreau Sul yn ymarfer y rhwystrau ar fuarth Ysgol Ffynnonbedr ac yn beicio ar hyd strydoedd y dref.  Wedyn ar ddydd Sadwrn ar ddiwedd Medi, byddai llond bws ohonom, y ddau dîm, rhieni, Peter, Thelma a Rhodri yn mynd i Faes Awyr yr RAF yn Sain Tathan ger Caerdydd i gystadlu.

Cynhaliwyd rownd rhwystrau mewn hangyr anferth lle roedd rhaid defnyddio cryn feistrolaeth o’r beic i fynd rhwng darnau o bren a cones heb groesi’r llinellau a thros beth a elwid yn llif.

Wedyn roedd rownd ar y ffordd fawr a defnyddiwyd y ffyrdd o gwmpas canolfan y maes awyr.  Roedd popeth yn cyfri, safle’r traed ar y pedalau, edrych yn ofalus i bob cyfeiriad a defnyddio breichiau er mwyn dangos pa gyfeiriad i droi ac wrth arafu.

Ond y rownd ysgrifenedig oedd yn anodd.  Roedd rhaid adnabod arwyddion ffyrdd yn ogystal ag ateb cwestiynau am reolau’r ffordd fawr.

Roedd cyfnod yr wythdeau yn gyfnod llwyddiannus iawn i Dîm Dyfed.  Cafodd y tîm iau a’r tîm hŷn gryn lwyddiant ac enillwyd gwobrau unigol gan unigolion o’r timoedd hynny.  Pe enillwyd gwobr Pencampwr Unigol Iau neu Hŷn yna cafwyd y cyfle i gystadlu yng Nghystadleuaeth Cenedlaethol RoSPA yn Harrow.

Cafodd rhai ohonon ni gyfle i gystadlu mewn cystadleuaeth marchogaeth moped yn ddiogel hefyd wrth fynd yn hŷn a llwyddo ar lefel Cymru ac ar lefel genedlaethol eto.

Wrth edrych nôl ar ein cyfnod fel plant yn yr wythdegau a’r cyfleoedd a gafwyd oherwydd ymrwymiad pobl fel Peter Hynd gyda chefnogaeth Terry Jones (Swyddog Diogelwch Ffyrdd y Sir), roeddem yn lwcus iawn yn yr ardal hon.  Roedd yn fraint i gael cynrychioli Dyfed, roedd yn foddhad aruthrol i ennill gwobrau cenedlaethol ond yn fwy na hynny, fe ddysgom lawer.  Pan ddaeth hi’n amser gwneud prawf gyrru yn 17 oed, roedden ni gymaint a hynny nes ymlaen na phobl ifanc eraill.

1989: yn eu tracwisgoedd newydd – Gavin Simpson, Shaun Griffiths, Andrew Doyle, Mark Richards, Daniel Jones, Alun Evans, Nerys Morgans, Gareth James, Gareth Thomas.