Preswylwyr Alltymynydd, Yr Annedd, Maesyfelin a Hafan Deg wedi derbyn eu brechiad cyntaf

Dyma’r diweddaraf am y cynllun brechu yn lleol.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Cyhoeddodd Meddygfa Llanbed fod preswylwyr yng nghartrefi Alltymynydd, Annedd, Maesyfelin a Hafan Deg, bellach wedi derbyn eu brechiad cyntaf.

Cysylltwyd neu frechwyd pob claf sy’n dod o fewn cam 2 y rhaglen frechu, sy’n gleifion 80 oed a throsodd.

Rhaid llongyfarch meddygon a staff y ddwy feddygfa leol am eu gwaith cyflym a gofalus o ystyried bod sawl meddygfa cyfagos heb ddechrau brechu eto a rhai tipyn ar eu hol hi.

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi cyhoeddi eu bod yn cysylltu â chleifion rhwng 75 a 79 oed (cam 3) yn eu gwahodd i Ganolfannau Brechu Torfol i dderbyn y brechlyn Pfizer.

Dywedodd Sian Jones, Rheolwraig Practis “Rydym wedi cael gormod o alwadau gyda chleifion sydd wedi derbyn llythyrau i fynychu’r Ganolfan Brechu Torfol. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Chanolfan Reoli’r Bwrdd Iechyd ar 0300 3038322. Peidiwch â chysylltu â’r feddygfa gan nad ydym mewn sefyllfa i’ch cynghori ar eich apwyntiad. Nid oeddem yn rhan o’r penderfyniad a wnaed gan y Bwrdd Iechyd.”

Bydd y feddygfa yn cysylltu â chleifion rhwng 70 a 74 oed a’r cleifion hynny sy’n hynod fregus yn glinigol (cam 4) i fynd i apwyntiad cyn gynted ag y cadarnheir eu bod yn cael eu brechu ac yn cael caniatâd gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda. Y gobaith yw y bydd hyn yr wythnos nesaf.

Ychwanegodd Sian Jones “Gan fod problemau o hyd ynglŷn â chyflenwi’r brechlyn AstraZeneca, mae’n anodd cynllunio clinigau brechu Covid. Gall hyn olygu ein bod yn cysylltu â chi ar fyr rybudd i fynd i apwyntiad. Bydd y clinigau hyn yn cael eu cynnal ym Meddygfa Taliesin, Llanbed a Meddygfa Brynmeddyg, Llanybydder.”