Prosiect newydd grŵp garddio Menter Silian o fudd i natur a’r gymuned

Pentref Silian yn derbyn pecyn natur wrth Cadwch Gymru’n Daclus 

gan Eryl Evans

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae ardaloedd gwyrdd yn ein cymunedau wedi bod yn bwysicach nag erioed er mwyn ein galluogi i ailgysylltu, ffocysu ac ymlacio. Bellach, mae grŵp garddio Menter Silian wedi rhoi hwb i natur a’r gymuned leol diolch i gynllun gardd newydd gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus. 

 

Mae pecynnau datblygu ‘Lleoedd Lleol ar gyfer Natur’ yn cynnwys hyfforddiant, cyngor, cymorth ymarferol a chefnogaeth i sefydlu ardaloedd gwyrdd newydd, am ddim, yn ogystal ag offer, deunyddiau a chyfarpar i ofalu amdanynt yn yr hirdymor. 

 

Bydd grŵp garddio Menter Silian yn creu prosiect ar raddfa fwy i ardaloedd Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. Ar hyn o bryd maent yn y broses o greu gardd bywyd gwyllt yng nghanol Silian. Mae’r pecyn yn cynnwys digon o goed brodorol i blannu perth wrth ymyl y pentref. O fewn rhai blynyddoedd, y gobaith yw i’r clawdd dyfu i fod yn glawdd prydferth yn llawn blodau ac aeron, ac i greu cysgod er mwyn denu adar bychain a phili-pala. Mae’r gweithgaredd yma yn digwydd o fewn tafliad carreg i stepen drws y gymdogaeth.  

 

Dywedodd Eryl Evans ar ran y grŵp fod yna nifer o flodau fel y lili wen fach a chlychau’r gog i’w plannu, yn ogystal â gosod tyweirch blodau gwyllt. Mi fyddwn yn plannu llwyni ffrwythau sy’n cynnwys mafon a chyrens duon, ac yn plannu coed afalau. Byddwn hefyd yn gosod trelis i dyfu gwyddfid a rhosod gwyllt. Rydym yn derbyn deunydd i wneud gwelyau uchel ar gyfer plannu blodau amrywiol a hefyd yn gosod dwy fainc i greu safle i ymlacio. Mae’r pecyn yn cynnwys offer garddio a sied sinc pwrpasol i gadw’r deunydd yn ddiogel ac yn daclus. 

 

Rydym yn falch iawn y dyfarnwyd y pecyn natur yma i’r grŵp garddio ac mae’n hynod gyffrous i greu llecyn deniadol yn ogystal â datblygu amgylchedd pwrpasol i’r bywyd gwyllt. Mae ’na groeso i wirfoddolwyr o fewn y dalgylch i gysylltu â ni i gydweithio gyda’r gwaith plannu a chael cyfle i fwynhau amser allan yn yr awyr iach. 

 

Teimlwn yn ffodus iawn i gael cefnogaeth Cadwch Gymru’n Daclus, ac yn hynod bles fod Silian wedi llwyddo i ennill y pecyn natur fawr yma ag oedd ar gael gan ein Hawdurdod Lleol. Rhaid oedd ceisio yn erbyn nifer o sefydliadau eraill i’w gael ac felly rydym yn hapus iawn ei dderbyn. Rydym yn hyderus ei fydd yn fantais at lles ac iechyd ni i gyd fel cymuned yn ogystal a fod yn help i’r amgylchedd. Mae’r cyfnod clo wedi creu anhawster a pheth oedi, ond rydym yn sicr y byddwn yn medru cyflawni’r gwaith bob yn dipyn. 

 

Dywedodd Louise Tambini, Dirprwy Brif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus: “Fwy nag erioed, mae pobl yn cydnabod gwerth byd natur i iechyd a lles ein cymunedau. Rydyn ni wrth ein boddau bod grwpiau, fel grŵp garddio Menter Silian bellach yn cael y cyfle i wneud gwahaniaeth go iawn gyda Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. Rydyn ni’n ymwybodol bod llawer o ardaloedd eraill a allai elwa o’r cynllun ac rydyn ni’n annog pobl i gymryd rhan tra bo pecynnau am ddim ar gael.” 

 

Mae’r cynllun yn rhan o gronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur ehangach gwerth £5m gan Lywodraeth Cymru, sydd wedi ymrwymo i gaffael, adfer a gwella natur ‘ar garreg eich drws’. 

Mae pecynnau’n dal ar gael i grwpiau a mudiadau cymunedol drwy Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. I wneud cais ewch i www.keepwalestidy.cymru/natur 

 

Gallwch weld y diweddaraf gyda’r prosiect yma drwy ddilyn Menter Silian (@HenEglwysSilian) ar Trydar, yn ogystal â gweld prosiectau tebyg gyda Cadwch Gymru’n Daclus (@Keep_Wales_Tidy) wrth ddilyn yr hashnod #NôliNatur / #BacktoNature ar wefannau cymdeithasol.