? Pwyllgor Apêl Cymorth Cristnogol Llanbedr Pont Steffan a’r Cylch yn codi dros £6,300!

Diolch o galon i drigolion ardal Llanbed am eu haelioni tuag at Cymorth Cristnogol.

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones

Cynhaliwyd cyfarfod o Bwyllgor Apêl Cymorth Gristnogol Llanbedr Pont Steffan a’r Cylch yn Festri Capel Shiloh nos Fawrth 15 Mehefin gan ddilyn y rheolau megis gwisgo mwgwd a chadw pellter fel bod pob un yn ddiogel. Cadeiriwyd gan Twynog Davies ‘roddodd trosolwg o’r holl ymdrechion i godi arian a’r gweithgareddau amrywiol a gynhaliwyd i dynnu sylw at Wythnos Gymorth Cristnogol 10-16 Mai 2021.

Bu rhaid cynnal gweithgareddau gwahanol a dyfeisgar gan nad oedd yn bosibl casglu o dŷ i dŷ yn ôl yr arfer. Trefnwyd sawl taith gerdded megis yn Llanbed, Pencarreg a Silian, cyflawnwyd ‘Her 300,000 o gamau’ Cymorth Cristnogol gan unigolion a dosbarthwyd blychau casglu arian yn y siopau. Cydnabuwyd haelioni Mair a theulu’r diweddar Barchedig Canon Wynzie Richards am gyflwyno rhodd o £1,500 er cof amdano. Bydd rhodd hefyd yn cael ei derbyn oddi wrth deulu’r diweddar Mrs Nell Williams, Capel Shiloh.

Adroddodd Elaine Davies (Ysgrifennydd) ar lwyddiant her y camau yn codi arian ac ymwybyddiaeth am Gymorth Cristnogol. Cymerwyd dros 3.5 miliwn o gamau ym Mai o gyfrif camau pawb. Mae yna bobl heini’n byw yn ardal Llanbed!

Adroddodd Deborah Angel (Trysorydd) bod cyfanswm yr arian a dderbyniwyd trwy’r eglwysi a’r siopau ac oddi wrth unigolion, cymdeithasau a’r cyfraniadau ar y dudalen JustGiving wedi cyrraedd £6,396.98.

Cewch mwy o’r hanes yng nghyfweliad fideo Clonc360 gyda Twynog, Elaine a Deborah ac yn rhifyn Gorffennaf o Bapur Bro Clonc. Dymuna’r pwyllgor ddiolch yn fawr iawn i bob un am eu haelioni a’u cefnogaeth tuag at Wythnos Cymorth Cristnogol 2021.