Un o raddedigion Astudiaethau Canoloesol yn parhau â’i astudiaethau yn Llambed er mwyn mynd yn Offeiriad.

Syrthio mewn cariad â’r campws a oedd wedi’i leoli yng nghefn gwlad Gorllewin Cymru.

gan Lowri Thomas

Mae un o raddedigion BA Astudiaethau Canoloesol o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi penderfynu parhau â’i astudiaethau yn Llambed ar ôl graddio er mwyn dod yn Offeiriad.

Graddiodd Paul Blackham o Lannau Mersi â BA mewn Astudiaethau Canoloesol. Bu gan Paul ddiddordeb erioed mewn hanes. Dair blynedd yn ôl, penderfynodd ei fod am astudio yn Llanbedr Pont Steffan, am iddo syrthio mewn cariad â’r campws a oedd wedi’i leoli yng nghefn gwlad Gorllewin Cymru. Apeliodd yr adran Ganoloesol yn Llambed hefyd at Paul gan iddo gael yr argraff o’r cychwyn cyntaf fod ei ddarlithwyr yn dangos angerdd go iawn, ac roeddent yn gallu gwneud pobl yn gyffrous am y pwnc.

Pan ddechreuodd Paul ei astudiaethau yn Llambed, roedd y brwdfrydedd yn yr adran yn heintus. Roedd pob un o’r athrawon a’r darlithwyr yn gynorthwyol yn ôl Paul, a phe bai’r myfyrwyr yn dangos diddordeb neu awch am y pwnc, byddai’r darlithwyr yn mynd allan o’u ffordd i sicrhau bod myfyrwyr yn cael yr adnoddau cywir ac yn eu rhoi nhw ar ben ffordd, a oedd yn gwneud yr adran yn unigryw iawn  mewn sawl ffordd.

Meddai Paul: “Y gallu i fynd i’r afael â rhai testunau canoloesol gwreiddiol… gallech chi ymgodymu’n iawn â meddwl, bywyd yr Oesoedd Canol a phethau felly. Mae’r llawysgrifau sydd ganddyn nhw yn y llyfrgell a’r archif, dyna’r rhai rydych chi’n eu gweld ar Wikipedia ac ar raglenni dogfen a  phethau tebyg, ac  roeddwn i’n rhyfeddu… mae’r llyfrau hyn yn fy nwylo… anhygoel!”

Mae Paul wedi sylwi ar ddatblygiad  enfawr ynddo’i hun dros y tair blynedd ddiwethaf, ac yn ei farn ef mae hyn wedi ei adlewyrchu yn ei raddau. “Pan ddechreuais i, doedd gen i ddim syniad y byddwn i’n cael graddau fel hyn. Rwy’n sôn am rai dros y flwyddyn ddiwethaf, rwy wedi bod yn cael dros 80… Fyddwn i erioed wedi breuddwydio am hynny yn fy mlwyddyn gyntaf, oherwydd doeddwn i ddim yn llwyddo bob tro i gael dros 60. Gallwch chi weld gwelliant a does dim lle gyda fi i gwyno!”

Mae wedi bod yn flwyddyn wahanol i fyfyrwyr oherwydd Covid, ond mae lefel y gefnogaeth i fyfyrwyr wedi bod yn eithriadol. Mae Paul yn hoffi bod ar ei ben ei hun, felly mae’n cyfaddef efallai iddi fod yn haws iddo nag eraill, ond gwnaeth y darlithwyr eu gorau glas i helpu i gyflwyno’r myfyrwyr yn raddol i addysgu  ar-lein.

Mae Llambed yn sicr wedi gadael ei ôl ar Paul, gan ei fod wedi penderfynu dychwelyd i’r campws y flwyddyn nesaf i astudio gradd Meistr mewn Diwinyddiaeth, a gobeithio dilyn ôl troed ei dad drwy gael ei ordeinio naill ai’n Offeiriad neu’n fynach. Mae’r cwrs wedi apelio at Paul gan ei fod yn debyg i’r adran ganoloesol, lle rydych chi’n twrio’n ddwfn i bynciau.

Dywedodd Dr Timothy Baylor, Darlithydd Crefydd a Diwinyddiaeth: “Mae Paul yn fyfyriwr arbennig. Dyma’r union fath o fyfyriwr yr ydym yn annog i barhau i astudio diwinyddiaeth yn Llambed; un sy’n cyfuno chwilfrydedd â bod yn fyfyriol, gydag ymrwymiad llawn i Grist. Rwy’n hyderus y bydd gwaith Paul fel gweinidog yn gwneud gwahaniaeth, a bydd pob aelod o’r Brifysgol hon yn medru ymfalchïo yn ei wasanaeth.”

Mae Paul yn teimlo’n ddyledus i’r Brifysgol, gan ei fod yn teimlo bod y cwrs Astudiaethau Canoloesol wedi rhoi cyfle iddo ddefnyddio ei radd i ddysgu am hanes Cristnogaeth gynnar i’w baratoi ar gyfer gyrfa’n offeiriad. Mae hefyd yn ddiolchgar am y cyfle i gael rôl Sacristan yn ystod ei gyfnod yn y Brifysgol, yn ogystal â gallu arwain y foreol a’r hwyrol weddi yng nghapel y Brifysgol. Ychwanegodd Paul: “Rwy’n credu mai astudio yn Llambed yw’r profiad gorau o addysg bellach i rywun sy’n gobeithio cymryd urddau sanctaidd. Rydych chi’n cael eich herio, rydych chi hefyd yn cael eich annog, cewch chi gymuned y capel, mae digon o hanes Cristnogol yma!”