Rhoddwyr gwaed Llanbed yn achub 498 o fywydau

Gwasanaeth Gwaed Cymru yn cydnabod bod holl roddion gwaed Llanbed yn Ionawr yn gwneud gwahaniaeth.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Mewn poster ar wefannau cymdeithasol mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn diolch i bawb a fynychodd sesiynau rhoi gwaed yn Llanbed ym mis Ionawr eleni.

Cynhaliwyd y sesiynau ar y 18fed a’r 19eg yn Neuadd Fwyta Lloyd Thomas Prifysgol y Drindod Dewi Sant y tro hwn.  Rhoddwyd 166 o roddion, a 33 o’r rhoddwyr yn gwneud hynny am y tro cyntaf.

Yn ogystal â hyn cofrestrodd 4 o bobl ar Gofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru.

Mae’n bosib bod y rhoddion gwaed a dderbyniwyd yn Llanbed wedi achub bywydau 498 o bobl neu hyd yn oed 996 o fabanod newyddanedig yng Nghymru.  Cyfraniadau gwych gan bobl yr ardal felly.  Da iawn bawb.

Os na lwyddoch i roi gwaed yn Llanbed y tro hwn, cofiwch wneud hynny y tro nesaf, neu beth am chwilio am apwyntiad yn rhywle arall?

Gallwch fynd i wefan Gwasanaeth Gwaed Cymru er mwyn gwneud apwyntiad i roi gwaed yn y llefydd cyfagos canlynol:

Aberaeron – 1af ac 2il Chwefror

Tregaron – 12fed Chwefror

Llandysul – 18fed a 19eg Chwefror

Mae teithio i rhoi gwaed yn daith hanfodol.  Nid yw’r cyfyngiadau teithio lleol yn cael unrhyw effaith ar deithio i apwyntiadau i roi gwaed, blatennau neu plasma.  Gall rhoddwyr gwaed deithio i apwyntiadau rhodd sydd wedi’u trefnu ymlaen llaw.

Os ydych chi wedi cael eich profi a’ch diagnosio gyda COVID-19 oherwydd canlyniad gwaed positif, gallwch dal rhoi gwaed pan fydd o leiaf 28 diwrnod wedi mynd heibio ar ôl i chi wella o’ch symptomau. Efallai y bydd gennych chi beswch sych, ond cyn belled â’ch bod yn teimlo’n iach, gallwch roi gwaed.

Os nad ydych wedi rhoi gwaed o’r blaen, mae’r broses yn hawdd ac yn hollol ddiboen.  Beth am roi cynnig arni?

Yn gyntaf, ar ôl cyrraedd eich apwyntiad bydd angen i chi gofrestru a chwblhau Holiadur Iechyd Rhoddwyr.

Yna bydd diferyn o waed yn cael ei gymryd o flaen eich bys er mwyn mesur eich lefelau hemoglobin (haearn) a gwneud yn siŵr eu bod yn dderbyniol.

Wedyn cymerir eich rhodd gwaed, sy’n para rhwng 5 a 10 munud. Y nod yw cymryd 475ml (ychydig o dan beint) ac ychydig o samplau ychwanegol i’w profi. Bydd y staff yn cadw llygad barcud arnoch i wneud yn siŵr bod popeth yn iawn.

Yn olaf, mae’n amser gorffwys a chael diod a bisged.

Mae rhoi gwaed yn gyflym, yn syml ac yn ddiogel. Mae’r broses gyfan, o’r amser y byddwch yn cyrraedd nes byddwch yn gadael, yn gallu cymryd rhwng 45 a 60 munud.  Rwyf i wedi bod yn rhoi gwaed ers dros 30 mlynedd.  Mae’n ffordd dda o helpu eraill.  Ewch amdani!