Rhywun wedi bod yn dwyn blodau #Llanbedyneiblodau

Pum planhigyn Geranium wedi diflannu ger arwydd Llanbed ar Ffordd Aberaeron.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Mae rhywun wedi bod yn dwyn planhigion o’r pot mawr ger arwydd “Croeso i Lanbed” ar ffordd Aberaeron.

Dywedodd Robert o Ganolfan Arddio Robert “Mae’n fy ngwneud i’n grac iawn.”

Os oes gan unrhyw un unrhyw syniad pwy sy’n gyfrifol, hoffai Robert wybod!  Mae pum planhigyn Geranium wedi diflannu.

Ychwanegodd Robert ar facebook “Byddaf yn ail-blannu ar nghost fy hunan ac yn fy amser fy hunan.”

Adroddwyd ar wefan Clonc360 yn ddiweddar pa mor hardd yw’r dref oherwydd ymdrechion Canolfan Arddio Robert gyda chefnogaeth y Cyngor Dref.  Cyhoeddwyd lluniau blodau siopau’r dref hefyd ar wefan Clonc360.

Mae trosedd fel hyn yn torri calon pob un sy’n ymfalchïo yn ei gymuned.  Bwriad plannu’r holl flodau a’u dyfrhau’n ddyddiol yw darpau golygfeydd hardd o gwmpas y dref a gwneud ein cymuned yn apelgar ac yn groeswgar.

Mae’r blodau wedi cael eu symud yn eithaf taclus felly mae’n eithaf tebyg eu bod yng ngardd rhywun erbyn hyn, neu os ydyn nhw wedi cael eu taflu i rywle mae hynny hyd yn oed yn waeth.

Hysbysir yr heddlu am y drosedd hon.