34. Ruhul Choudhury, Nehar – y flwyddyn a fu

Dyma’r 34ain mewn cyfres o gyfweliadau â gweithwyr lleol yn trafod effaith y cyfnod clo.

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones

Mae’n flwyddyn ers dechrau’r Cyfnod Clo, ac er mwyn nodi hynny mae Clonc360 yn holi gweithwyr lleol am effaith cyfyngiadau Covid-19 arnynt yn y flwyddyn.

Ruhul Choudhury sy’n rhedeg Nehar, bwyty tecawê Indiaidd ar Heol y Bont, Llanbedr Pont Steffan. Diolch yn fawr Ruhul am ateb y cwestiynau.

Beth yw’r heriau mwyaf chi wedi’u hwynebu yn y flwyddyn ddiwethaf?

’Rydym wedi parhau i fod ar agor yn y cyfnodau clo yn cynnig bwyd tecawê. Mae’r galw am brydau tecawê wedi cynyddu dros y misoedd diwethaf. Ein heriau mwyaf yw parhau i ddarparu prydau ffres i’n holl gwsmeriaid.

Beth sydd wedi newid eleni a sut ’rydych chi wedi gorfod addasu?

’Rydym bob amser yn drefnus gydag archebion ein cwsmeriaid ac yn cynnig amser pendant iddynt eu casglu. Ein blaenoriaeth yw cadw’n cwsmeriaid a ninnau’n ddiogel pan maent yn dod i gasglu’r archebion. Caniateir tri chwsmer ar y tro yn y bwyty. ‘Rydym yn annog ein cwsmeriaid i archebu ymlaen llaw trwy ein ffonio. Mae hyn yn cyfrannu at gadw pawb mor ddiogel ag sy’n bosibl.

Beth ydych chi wedi dysgu dros y cyfnod clo?

’Rydym wedi dysgu bod trigolion Llanbed a’r cylch yn gwerthfawrogi prydau bwyd ffres. Daeth hynny’n fwy amlwg fyth tros y misoedd diwethaf. ’Rydym yn falch iawn o fod yn byw ac yn gweithio mewn cymuned mor garedig a chymwynasgar. Diolch yn fawr i bawb m eu cefnogaeth.