Buddugoliaeth i Dîm Ieuenctid Llanbed

Llanbed yn trechu Ieuenctid Athletic Caerfyrddin mewn tywydd garw.

gan Heulwen Jones

Ar ddiwrnod diflas gwyntog a glawog fe deithiodd Tîm Ieuenctid Llanbed lawr i Gaerfyrddin ar gyfer gêm yn erbyn yr Athletic. Gyda thipyn o fechgyn yn eisiau, dim ond un ar bymtheg oedd ar gael ar gyfer y daith anodd hon.

Dechreuodd y gȇm gyda’r Athletic yn pwyso a thîm Llanbed yn amddiffyn yn gadarn. Yn dilyn hyn roedd y gêm yn eithaf cyfartal gyda’r ddau dîm yn ei chael hi’n anodd i drafod y bêl yn y tywydd garw a blaenwyr y ddau dîm yn ceisio cadw’r bêl yn dynn.

Hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf fe lwyddodd Jac Lloyd i gicio cic gosb i roi Llanbed ar y blaen o 0 i 3. Tua diwedd yr hanner cyntaf wedi cryn bwyso gan flaenwyr Llanbed llwyddodd Thomas Williams i sgorio cais ac fe giciodd Jac Lloyd i ychwanegu’r ddau bwynt. Ar yr hanner roedd Llanbed ar y blaen o 0 i 10.

Dechreuodd yr ail hanner yn debyg iawn i ddiwedd yr hanner cyntaf gyda Llanbed yn pwyso a’r Athletic yn amddiffyn yn gadarn. Llwyddodd Jac Lloyd i ychwanegu tri phwynt arall o gic gosb a fel hynny fuodd hi tan y pum munud olaf nes i’r Athletic sgorio trosgais wrth i fechgyn Llanbed flino.

Dyma oedd y sgôr terfynol 7 – 13 a Llanbed yn dychwelyd adre gyda’r fuddugoliaeth.