28. Sandra Jervis, Creative Cove – y flwyddyn a fu

Dyma’r wythfed ar hugain mewn cyfres o gyfweliadau â gweithwyr lleol yn trafod effaith y cyfnod clo.

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones

Mae’n flwyddyn ers dechrau’r Cyfnod Clo, ac er mwyn nodi hynny mae Clonc360 yn holi gweithwyr lleol am effaith cyfyngiadau Covid-19 arnynt yn y flwyddyn.

Sandra Jervis yw perchennog Creative Cove, siop gwerthu deunydd celf a chrefftau ac offer ysgrifennu ar y Stryd Fawr, Llanbedr Pont Steffan. Diolch yn fawr iddi am ateb y cwestiynau.

Beth yw’r heriau mwyaf chi wedi’u hwynebu yn y flwyddyn ddiwethaf?

Un o’r heriau oedd atgoffa pobl am fodolaeth y siop ac y gallent barhau i archebu nwyddau gennym er bod y siop ar gau oherwydd y cyfnod clo. Mae mor hawdd i bobl archebu nwyddau o siopau ar-lein yn unig ac anghofio’n llwyr am y siopau bach sy’n darparu’r un nwyddau a gwasanaeth yn lleol.

Bu’n her ac yn waith ychwanegol i godi a chynnal proffil y siop ar y cyfryngau cymdeithasol, mynd â nwyddau at bobl, postio archebion a threfnu gwasanaeth clicio a chasglu. ’Roedd angen atgoffa pobl yn gyson bod y nwyddau ar gael i’w prynu’n lleol ac nad oedd angen archebu oddi wrth siopau ar-lein.

Mae’r holl waith ychwanegol wedi talu ei ffordd. Mae pobl wedi bod yn gefnogol dros ben ac wedi prynu’n lleol a’m cefnogi i a’r busnes.

Beth sydd wedi newid eleni a sut ’rydych chi wedi gorfod addasu?

Nid yw’n hawdd gwerthu y tu ôl i ddrws caeëdig! Bu rhaid addasu a dysgu bod yn siopwr personol, yn gyrru a chyflenwi nwyddau ar draws gwlad yn ogystal â’r gwaith arferol o redeg y siop. Mae gwasanaeth clicio a chasglu wedi bod yn fuddiol iawn gan roi cyfle i mi baratoi’r archeb, derbyn y taliad a chael popeth yn barod ar gyfer y cwsmer i’w gasglu trwy drefniant.

Beth ydych chi wedi dysgu dros y cyfnod clo?

Dysgais cymaint dros y cyfnod clo. Ffyrdd gwahanol o ymwneud â phobl a dulliau newydd o werthu.

Y peth pwysicaf ddysgais yw bod y gymuned leol yn barod iawn i gefnogi’r busnes mewn cyfnodau mor anodd. Mae’n anhygoel meddwl mewn cyfnod pan fu’r siop ar gau a phobl yn methu a gweld na dewis nwyddau, bod cynifer wedi bod yn cysylltu â mi i archebu dros y ffôn, tros Facebook ac ar e-bost.

Dysgais fod trigolion yr ardal yn gwerthfawrogi’r siopau annibynnol a’r gwasanaeth a gynigir ganddynt. Maent yn barod iawn i archebu, prynu a’n cefnogi. ’Roeddwn innau’n barod i’w cynorthwyo hwythau a gwneud fy ngorau drostynt.