Sbwriel heb ei gasglu yn Llanbed

Bagiau sbwriel a biniau bwyd gwastraff dal ar ochr ffrydd y dref ers dydd Gwener.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Ni chasglwyd sbwriel o brif strydoedd Llanbed ddydd Gwener diwethaf, ac o ganlyniad gwelir y bagiau clir o sbwriel ailgylchu a’r biniau bwyd gwastraff dal ar ochr y ffrydd.

Effeithiwyd hefyd ar gasgliadau Silian, Cribyn ac ardaloedd Aberteifi ar yr un diwrnod.

Nodir ar wefan Cyngor Sir Ceredigion y dylech ailgyflwyno’ch gwastraff ar eich diwrnod casglu nesaf.  Ond ni nodir unrhyw reswm pendant dros hyn.

Gan ystyried eu bod yn gweithio allan ym mhob tywydd maent hefyd yn agored i salwch tymhorol fel y mae gweddill y boblogaeth. Mae COVID-19 wedi ychwanegu pwysau pellach.

Hoffem ddiolch i’n preswylwyr am eu dealltwriaeth a’u cefnogaeth barhaus ar yr adeg arbennig o heriol hon.

Ond tybed a yw hyn yn ganlyniad i’r un ffactorau sy’n achosi silffoedd gwag yn ein harchfarchnadoedd?  Oes prinder gyrrwyr lorïau sbwriel neu a yw bois y bins yn gorfod hunan ynysu?

Beth bynnag yw’r rhesymau, mae gadael sbwriel ar strydoedd y dref yn anharddu’r ardal ac yn gwneud y profiad o gerdded y palmentydd a siopa yn annymunol.