Seiclwyr y Sgarlets yn Llanbed

Bu taith de Scarlets yng Nghlwb Rygbi Llanbed ar ôl galw yng nhlybiau rygbi Aberaeron, Aberystwyth a Thregaron ar ddydd Mercher y 11eg o Awst.

gan Ifan Meredith
IMG_4364-1
Screenshot-2021-08-11-at-21.01.16

Prynhawn ‘ma galwodd chwaraewyr y Scarlets a chyn fachwr Seland Newydd Sean Fitzpatrick yng Nghlwb Rygbi Llanbed wrth i Daith De Scarlets feicio 350 milltir mewn 4 diwrnod gan alw mewn 53 o glybiau i godi arian i helpu clybiau i ddychwelyd i chwarae rygbi.

Cychwynwyd o Barc y Scarlets ar y 9fed o Awst a byddant yn ymweld â phob clwb ar draws tair sir o Aberystwyth i Dŷ Ddewi a draw i’r Hendi.

Mae Sefydliad Gymunedol Scarlets yn anelu at godi arian a fydd yn cael ei rhoi tuag at rygbi cymunedol a helpu clybiau gyda phrosiectau i helpu i ddychweliad at rygbi.

Dywedodd Swyddog Gymunedol y Scarlets Rhodri Jones, “Gobeithiwn i godi arian i allu fuddsoddi nôl i mewn i’r clybiau cymundeol a chlybiau merched gyda dychweliad i rygbi a pharatoadau am y tymor newydd. Hefyd, bydd yr arian yn cefnogi gwaith y sefydliad gan ddilyn ein ymgyrch pecynnau gofal yn ystod Covid-19.”

Ychwanegodd “Mae mynd i fod yn sialens ond hoffwn i’r clybiau i ymuno â ni ar y daith.” Parhaodd y daith heddiw yn Llanybydder a Llanymddyfri cyn ymweld â gweddill clybiau Sir Gaerfyrddin yfory a gorffen gyda’r nos ym Mharc y Sgarlets am 20:23.

Medd Cymuned y Sgarlets ar Instagram bod yr “18 mis diwethaf wedi bod yn anodd a hoffent gefnogi’r clybiau i ddychwelyd i chwarae.”

Lansiwyd Sefydliad Cymunedol y Scarlets yn 2020 ac maent yn estyniad elusennol o’r Scarlets. Gellir cyfrannu ariannol drwy ymweld â gwefan justgiving.