O dan yr amgylchiadau presennol, mae Menter Gorllewin Sir Gâr yn gweithio i ddarparu gweithgareddau a sesiynau i chi allu parhau i gymdeithasu a byw yn Gymraeg yn ddigidol ac wyneb yn wyneb yn unol â chyfarwyddiadau’r llywodraeth parthed cyfyngiadau. Mae’r Fenter yn falch iawn o allu trefnu digwyddiadau yn ddiogel dros yr haf eleni ac yn gobeithio eich bod wedi mwynhau gymaint â ni!
Picnic yn y parc ac adloniant gan Siani Sionc:
Cynhaliwyd picnic yn y parc yng Nghaerfyrddin a Saron dros yr haf. Roedd hi’n braf gweld gymaint o deuluoedd wedi ymuno â ni a Siani Sionc mewn sesiynau canu a dawnsio! Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi mynychu ac yn edrych ymlaen at ein digwyddiad i’r teulu nesaf.
Dywedodd rhiant: Diolch am drefnu digwyddiad yn ein pentref (Saron), rwyf i a’r gŵr yn falch iawn o allu mynychu digwyddiad sydd yn cynnig cyfle i’r plant gymdeithasu gyda phlant eraill ac i ni’n dau gwrdd â rhieni newydd hefyd. Diolch am drefnu bod wyneb adnabyddus fel Siani Sionc wedi perfformio yn y pentref, mae’r plant wedi bod yn gwylio’r fideos yn rheolaidd ar y we dros y cyfnod clo ac yn falch iawn o weld sioe wyneb yn wyneb o’r diwedd. Edrychwn ymlaen at fynychu sesiwn arall gan y Fenter cyn hir.
Helfeydd Trysor:
Hoffai’r Fenter ddiolch yn fawr i holl wirfoddolwyr bu allan yn ein pentrefi yn cynnwys Llansteffan, Pont Tyweli, Caerfyrddin a Hendygwyn ar Daf yn paratoi helfeydd trysor ar gyfer trigolion yr ardal. Er mwyn derbyn y canlyniadau, cysylltwch gyda gwawr@mgsg.cymru
Taith Fygi:
Rydym yn ail-gychwyn ar ein sesiynau teithiau bygi poblogaidd yn y dair ardal, sef Hendygwyn-ar-Daf, Castell Newydd Emlyn a Chaerfyrddin. Mae’r teithiau yn ymgynnull am 10:15yb ac yn cychwyn am 10:30yb ym mhob ardal. Ymunwch â ni am gyfle i sgwrsio, gwneud ychydig o ymarfer corff ac am wâc hamddenol. Mae’n angenrheidiol i bawb gofrestru o flaen llaw. Cysylltwch gyda gwawr@mgsg.cymru i gofrestru.
Coffi a Chlonc:
Mae’r sesiynau yma sydd wedi cael eu cynnal ers cychwyn y cyfnod clo yn parhau, dyma gyfle i ddod ynghyd i sgwrsio a chymdeithasu dros baned bob bore dydd Iau am 10.30yb dros Zoom. Mae’r weithgaredd yma yn addas ar gyfer dysgwyr neu siaradwyr rhugl. I dderbyn y linc cysylltwch gyda ceris@mgsg.cymru.
Clybiau Darllen:
Mae Menter Gorllewin Sir Gâr yn trefnu dau glwb darllen sy’n cwrdd unwaith y mis ar Zoom. Mae Clwb Darllen i oedolion yn cwrdd bob ail nos Fawrth y mis am 7yh a chlwb darllen i ddysgwyr yn cwrdd ar nos Fawrth olaf pob mis am 7yh. Dyma gyfle i ddod ynghyd i gymdeithasu a thrafod nofelau cyfoes. Am fwy o wybodaeth neu i gofrestru cysylltwch gyda ceris@mgsg.cymru
Mis Medi 2021:
Yn ddibynnol ar ganllawiau’r llywodraeth, rydym yn edrych ymlaen at y cyfnod nesaf wrth i ni fynd ati i drefnu boreau hwyl a sesiynau stori i deuluoedd, sesiynau ymarfer corff i oedolion ac i gydweithio gyda phrosiectau cyffrous newydd sydd ar y gweill yn ardaloedd y Fenter. Bydd mwy o wybodaeth yn y rhifyn nesaf ac ar ein gwefan/gwefannau cymdeithasol.
Cyfryngau Cymdeithasol:
Gyda’r cyfyngiadau yn newid o hyd, mae gwaith y fenter yn newid gydag amryw o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn cael eu cynnal ar-lein. Am y diweddaraf, ewch i’n cyfryngau cymdeithasol:
Facebook – Menter Gorllewin Sir Gar
Trydar – @MenterGSG
Instagram – @MenterGSG
E-bost – ceris@mgsg.cymru neu am fwy o wybodaeth ar sut i gyrraedd y platfformau yma cysylltwch gyda Ceris dros y ffôn: 07939 962042.