Sioe Ddigidol C.Ff.I. Llanllwni 2021

Canlyniadau’r sioe arbennig a gynhaliwyd ar Ddydd Llun Gŵyl y Banc. 

Siriol Howells
gan Siriol Howells

Gyda Gŵyl y Banc wedi pasio rydym ni fel clwb yn falch i weld bod y gymuned dal yn cefnogi’r sioe, er ein bod eleni eto wedi gorfod cadw’r sioe yn un rithiol oherwydd y sefyllfa bresennol. Blwyddyn nesa rydym yn gobeithio ein bod yn medru mynd yn ôl i’r arfer a chynnal y sioe yn ôl wyneb yn wyneb.

Hoffen ni fel clwb ddiolch i bawb fu wrthi’n cystadlu, roedd y safon heb ei hail gyda llwyth o bobl wedi cystadlu o fewn yr amrywiaeth o adrannau. Diolch yn fawr hefyd i’r beiriniad fu wrthi’n crafu pen i ddyfarnu’r gwobrau, ac i’r unigolion fu wrthi’n stiwardio bob adran.

Yn bennaf oll, diolch i Cathrin Jones ein hysgrifenyddes am roi’r cyfan at ei gilydd i safon arbennig, er mwyn medru sicrhau bod y canlyniadau’n cael eu cyhoeddi mewn da bryd.

Ewch draw i’n tudalen Facebook i gael gweld y canlyniadau yn eu cyfanrwydd, ond dyma nhw i chi;

Adran Defaid

Unigolyn ucheldir gorau;

1af- Geraint Evans Pantycoubal

Unigolyn iseldir gorau;

1af- Owain Davies, Gwndwn

2ail- Owain Davies, Gwndwn

3ydd- Chloe Davies

Unigolyn cyfandirol gorau;

1af- Siôn Jones, Frongoy, Pennant

2ail- Geraint Evans, Pantycoubal

3ydd- Ieuan Wyn Rees, Ger y Bryn, Llanllwni

Adran Gwartheg

Tywysydd Ifanc-12 mlwydd oed neu lai;

1af- Elis Saunders

Gwartheg Godro-Buwch/Heffer mewn llaeth;

1af- Teulu Powell, Gwarcwm

2ail- Teulu Powell, Gwarcwm

3ydd- Teulu Davies, Gwndwn

Gwartheg Biff-Heffer/Tarw/Eidion o dan 18 mis;

1af- Teulu Evans, Pantycoubal

2ail- Teulu Bellamy, Hendy

3ydd- Teulu Lewis, Gwarcoed Einon

Adran Gŵn

Y ci fyddai’r beirniad yn hoff o gael adref;

1af- Chloe Davies

2ail- Miriam Cashel

3ydd- Marian Hamer, Bryncewyll, Bontnewydd

Cynffon mwyaf gwyllt;

1af- Geraint Evans, Pantycoubal

2ail- Marion Howells, Pantglas

3ydd- Marian Hamer, Bryncewyll, Bontnewydd

Adran Hen Gerbydau

Hen Gar;

1af- Marian Hamer

Tractor-Hen Beiriant amaethyddol;

1af- Marian Hamer, Bryncewyll, Bontnewydd

2ail- Anwen Evans

3ydd- Siôn Evans

Adran Llysiau

Llysieuyn o siâp od;

1af- Nick Lloyd

2ail- Nick Lloyd

3ydd- Marian Hamer, Bryncewyll, Bontnewydd

Casgliad o gynnyrch gardd;

1af – Teulu Crossroads, Llanllwni

Adran Blodau

Trefniant o flodau ar gyfer canolbwynt y bwrdd;

1af- Marian Hamer, Bryncewyll, Bontnewydd

2ail, Carol Evans, Gelli

Planhigyn Blodeuol Gorau;

1af- Ann Jones, Harford

2ail- Ken Howells, Gwarallt

=3ydd- Ieuan Wyn Rees, Ger y Bryn

=3ydd- Sulwen Lloyd, Ucheldir, Cwrtnewydd

Adran Fferm

Tractor wrth ei waith;

1af- Dyfrig Evans, Pantycoubal

2ail- Geraint Evans, Pantycoubal

3ydd- Alan Jones, Penlanfach, Cwrtnewydd

Cae-ardal orau o lastwelltir;

1af- Geraint Evans, Pantycoubal

2ail- Marion Howells, Pantglas

3ydd- Marian Hamer, Bryncewyll, Bontnewydd

Adran Coginio

Spynj wedi ei haddurno;

1af- Marlene Evans

2ail- Catrin George

3ydd- Marlene Evans

Saug sawrus gorau;

1af- Ieuan Wyn Rees

2ail- Jennifer Grant

3ydd- Marian Hamer

Adran Creff

Eitem allan o bren neu metel;

1af- Teulu Park Lane, Llanllwni

2ail- Lewis Thomas, Crossroads

=3ydd- Marian Hamer, Bryncewyll

=3ydd- Lewis Thomas, Crossroads

Eitem wedi ei wnïo ar gyfer y cartref;

1af- Marian Hamer, Bryncewyll

Adran Fforograffiaeth

Llun ar y thema ‘whoops’;

1af- Annwen Evans, Parklane

2ail- Marian Hamer, Bryncewyll

3ydd Elliw Jones, Beilibedw

Llun sy’n cyfleu’r cyfnod clo;

1af- Sara Thomas, Ger y Bryn

2ail- Cian Jones, Beilibedw

=3ydd- Ken Howells, Gwarallt

=3ydd- Magi, Elsi a John Williams, Tŷ’r Celyn

Adran Plant Ysgol Gynradd 

Eitem allan o focs esgidiau;

1af- Einir George

2ail- Betsan Mai Jones

3ydd- Megan Haf Jones

Cacenau ‘rice crispy’ wedi eu hardduno;

1af- Einir George

2ail- Erin Evans, Parklane

Adran Ysgol Uwchradd ac Aelodau CFFI

Eitem allan o Lego;

1af- Lewis Thomas

2ail- Tudur George

3ydd- Lewis Thomas

Fideo Tik-Tok;

1af- Siôn a Mared Evans

2ail- Ceris Howells