Gohirio Sioe Feirch Llanbed 2021

Pwyllgor Sioe Feirch Llanbed yn gohirio’r Sioe tan Ebrill 23ain 2022

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Sioe Feirch Llanbed 2015

“Gyda gofid, rhaid imi roi gwybod ichi ar ran y Pwyllgor, bod Sioe Feirch Llanbed 2021 yn cael ei gohirio tan Ebrill 23ain 2022.” Dyna oedd y datganiad a ryddhawyd gan John Green, cadeirydd y pwyllgor ddoe.

Ar ôl monitro rheolau Llywodraeth Cymru ynglŷn â’r Coronafeirws a chysylltu â Chyngor Sir Ceredigion dros yr ychydig fisoedd diwethaf, mae’n amhosibl o dan y rheolau cyfredol i gynllunio a chynnal Sioe ym mis Ebrill 2021.

Esbonia’r datganiad “Mae Cymru ar glo ar hyn o bryd, Rhybudd Lefel 4. Er ei bod yn amhosibl rhagweld beth fydd yn digwydd dros yr ychydig fisoedd nesaf, mae’n edrych yn annhebygol iawn y bydd lefelau rhybudd Llywodraeth Cymru yn dod i ben cyn mis Ebrill, gan fod lefel Rhybudd 1 yn caniatáu ond 30 o bobl i gwrdd yn yr awyr agored. Mae iechyd a diogelwch swyddogion, stiwardiaid, cystadleuwyr a’r gymuned ehangach yn bwysicach ar hyn o bryd.”

Mae Sioe Feirch Llanbed yn un o brif ddigwyddiadau’r byd ceffylau yng Ngwledydd Prydain gyda chystadleuwyr yn mynychu bob blwyddyn o bell ac agos.

Trefnir y sioe flynyddol lwyddiannus hon gan dîm o wirfoddolwyr lleol, a phenderfyniad anodd oedd gohirio eleni eto, ond neges John Green ar ddiwedd ei ddatganiad oedd “Cymerwch ofal, a gobeithiwn eich gweld yn 2022.”