Safon arbennig o dda yn @Sioecwm 2021

Adroddiad ar sioe rithiol @sioecwm 2021

Einir Ryder
gan Einir Ryder

Yn dilyn llwyddiant ein sioe rithiol sef @sioecwm y llynedd a gyda nifer o reolau Covid yn parhau mewn grym daeth y pwyllgor i’r canlyniad mai’r ffordd ymlaen eleni oedd i barhau i gynnal y sioe yn rithiol.

Unwaith eto cafwyd cefnogaeth arbennig o dda gyda bron i 50 o gystadleuwyr a 150 o eitemau a phob un o safon arbennig o dda. Ein beirniaid am eleni oedd Mrs Gwyneth Davies a Mrs Nanna Ryder a nodwyd gan y ddwy “fod yr eitemau a gyflwynwyd ym mhob cystadleuaeth o safon uchel iawn. Llongyfarchiadau calonnog i bawb wnaeth gystadlu a diolch yn fawr am gael y cyfle i feirniadu.”

Yn wahanol i’r llynedd penderfynwyd cyfyngu’r cystadlaethau i 11 yn unig ac roeddent yn amrywio o gystadlaethau i’r disgyblion iau i hen beiriannau a choginio. Y cystadlaethau mwyaf poblogaidd oedd coginio cacen yn cynnwys ffrwyth a’r anifail pedair coes.

Dyma fideo o’r anifeiliaid pedair coes a’r gacen sydd yn cynnwys ffrwyth ac os am wylio canlyniadau’r sioe i gyd ewch am dro i dudalen Facebook Treialon Cŵn Defaid a Sioe Cwmsychpant. Gallaf eich sicrhau chi y cewch wledd i’r llygaid. G​obeithiwn ​yn fawr y cawn eich gwahodd chi oll i gaeau’r sioe y flwyddyn nesaf lle y byddwn yn dathlu 40 mlynedd o Dreialon Cwn Defaid a Sioe Cwmsychpant.