44. Stella Teasdale, Mulberry Bush – y flwyddyn a fu

Dyma’r 44ain mewn cyfres o gyfweliadau â gweithwyr lleol yn trafod effaith y cyfnod clo.

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones

Aeth blwyddyn ers dechrau’r Cyfnod Clo, ac er mwyn nodi hynny mae Clonc360 yn holi gweithwyr lleol am effaith cyfyngiadau Covid-19 arnynt yn y flwyddyn.

Teulu Stella Teasdale yw perchnogion Mulberry Bush, siop fwyd a lles iechyd ar Heol y Bont, Llanbedr Pont Steffan. Diolch yn fawr Stella am ateb cwestiynau Clonc360.

Beth yw’r heriau mwyaf chi wedi’u hwynebu yn y flwyddyn ddiwethaf?

Wel am flwyddyn mae hon wedi bod! Amser hyn llynedd ’doedd neb yn siŵr beth oedd o’n blaenau na sut fydde pethe. Bu llawer o siopa a phrynu mewn panig ddiwedd Mawrth 2020 yn y Mulberry Bush. Gwelsom gynnydd uchel yn ein ffigyrau gwerthiant – sy’n newyddion da a chyffrous i ni fel arfer. Y broblem oedd nad oedd yn bosib cael stoc mewn yn ddigon cloi i lenwi’r silffoedd gwag. Daeth yn amlwg bod nifer o’n cyflenwyr wedi peidio derbyn archebion – cymaint oedd y galw am eu nwyddau. Bu rhaid i ni oedi a gwirio cyn anfon archebion atynt i weld os fyddent yn medru cyflenwi’r nwyddau i ni.

Gwelsom gwsmeriaid newydd oherwydd nad oedd bwydydd sylfaenol megis blawd a burum ar gael yn eu harchfarchnadoedd arferol. ’Roedd yn braf eu gweld yn prynu yn y siopau bach lleol a sylweddoli beth sydd gennym ar werth a’r gwasanaeth gallwn ei gynnig iddynt.

Cymaint fu’r galw am rhai nwyddau fel i ni werthu allan o’n atchwanegiadau bwyd fel ‘Echinacea’, Fitamin C a ‘Colloidal Silver’ all helpu’r corff ymladd heintiau. ’Rydym yn cadw stoc dda o’r rhain bob amser – dwi ’rioed wedi rhedeg mas ohonynt o’r blaen! Bu rhaid i ni hyd yn oed ddod a’n gwerthiant ar-lein o rhai eitemau i ben yn dilyn postio’r pecyn olaf o’n Fitamin C a’n losenni sinc i brynwr yn ne Lloegr. ’Roedd yn amhosibl archebu cyflenwadau ychwanegol. ’Roedd yn bwysicach gen i fod nwyddau ar gael i’m cwsmeriaid lleol yn Llanbed!

Beth sydd wedi newid eleni a sut ’rydych chi wedi gorfod addasu?

Llwyddom i uwchraddio’n gwefan ac i lunio rhestr o’r nwyddau gellir eu prynu trwyddi. Newidiwyd ein gwefan i fod yn wasanaeth clicio a chasglu ar gyfer y gymuned leol. Derbyniwyd llawer o archebion ar-lein yn ystod y cyfnodau clo. Cynigiwyd hefyd gwasanaeth clicio a chasglu dros y ffôn i bobl leol oedd heb fynediad i’r we. ’Roedd cwsmeriaid yn medru casglu eu negeseuon o ddrws y siop heb orfod dod i mewn atom.

’Rydym wedi bod yn lwcus iawn bod y siop wedi gallu bod ar agor drwy’r cyfnodau clo. Nid wyf wedi cael amser bant o gwbl felly ’rwyf wedi blino’n lan erbyn hyn. Er hynny, mae gweithio yn y siop drwy’r amser wedi bod o help mawr i mi yn feddyliol ac yn ariannol. Ni wn sut fyddwn wedi ymdopi pe byddem wedi gorfod cau drysau’r siop fel yn achos cymaint o fusnesau lleol eraill.

’Rydym wedi addasu’r caffi ac mi wnaethom gynyddu’r prydau parod wedi eu rhewi gan leihau ein darpariaeth o brydau twym tecawé. Pan newidiodd y cyfyngiadau clo Haf diwethaf ’roeddem yn medru cynnig prydau bwyd yn y caffi unwaith eto. Darparwyd llai o fyrddau a seddi lan llofft a bu rhaid glanhau’n amlach i ddiogelu’n cwsmeriaid.

Mae nifer o’r rheolau cofid yn arferion da sy’n ymwneud â chadw lle’n lan. Byddaf yn falch pan na fydd rhaid i ni gyd wisgo mwgwd trwy’r dydd yn y gwaith.

Beth ydych chi wedi dysgu dros y cyfnod clo?

Hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch i’n holl gwsmeriaid lleol sydd wedi dal ati i’n cefnogi. Maent wedi cadw Llanbed yn dre braf i fyw a siopa ynddi. Diolch yn fawr i chi i gyd.