Swydd newydd: Cadwyn Teifi

Cyfle i weithio fel swyddog yn cyflwyno Cristnogaeth i ddisgyblion ardaloedd Llanbed a Thregaron.

Hoffech chi weithio er mwyn sefydlu presenoldeb Cristnogol cryf yn ysgolion dalgylchoedd Ysgol Henry Richard, Tregaron, ac Ysgol Bro Pedr, Llanbedr Pont Steffan?

Dyma gyfle i chi ymgeisio am swydd benodol fel Gweithiwr / Gweithwraig Ysgolion. Croeso i chi rannu’r hysbyseb gyda phobol yn eich eglwysi / cymunedau / grŵp o ffrindiau. Ac os am fwy o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol, cofiwch gysylltu â’r Parchedig Densil Morgan, d.d.morgan@uwtsd.ac.uk

Dyddiad cau: 15 Hydref 2021.

Fersiwn PDF o’r hysbyseb ar gael yma.