Swyddogion Ysgol Bro Pedr 2021-2022

Cyflwyno Tîm o Swyddogion newydd yn Ysgol Bro Pedr ar gyfer 2021-2022.

gan Sara Elan Jones

Tîm Prif Swyddogion Ysgol Bro Pedr 2021-2022

Ar gyfer y flwyddyn academaidd 2021-2022, apwyntiwyd tîm newydd sbon o Brif Swyddogion, dirprwy Brif Swyddogion a Swyddogion amryddawn yn Ysgol Bro Pedr yn dilyn proses hir o lenwi ffurflen gais, cael eu dethol mewn etholiad ymysg disgyblion ac athrawon yr ysgol, yn ogystal â mynychu cyfweliad gyda’r panel.

Wedi pwyso a mesur, dewiswyd Guto Ebbsworth, Tirion Lloyd a Filip Poczatek yn Brif Swyddogion a Gruffydd Thomas, Zoe Jarman-Davies, Alexander Kinchen-Goldsmith a Oliwia Taisner fel eu dirprwyon, a phenodwyd Swyddogion sef Ioan, Catrin, Danny, Klaudia, Lleucu, Lois, Lowri, Nia, Shannon, Sioned, Skye, Undeg, Chloe, Ellie, Ffion, Hafwen a Steffan i’w cynorthwyo yn ystod y flwyddyn gyffrous sydd o’u blaenau.

Yn sicr, allweddol yw’r tîm o swyddogion i fywyd yr ysgol gan eu bod yn cynrychioli’r ysgol mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau mewnol ac allanol ac hefyd yn cyfrannu’n helaeth at fywyd yr ysgol drwy gydol y flwyddyn.

Does dim dwywaith bod y rhan fwyaf ohonoch yn gyfarwydd â un o’r Prif Fechgyn eleni sef Guto Ebbsworth o Lanwnnen. Cymdeithasu â ffrindiau a chwarae pêl droed i dîm Sêr Dewi a rygbi i dîm ieuenctid Llambed sy’n mynd â’i fryd. Trwy gydol ei amser fel disgybl yn yr ysgol, bu Guto’n aelod brwd o’r cyngor Cymreictod ac mae hybu’r defnydd o Gymraeg yn yr ysgol yn elfen bwysig iawn iddo. Mae Guto yn un o Lysgenhadon yr Urdd eleni ac yn aelod gweithgar o Glwb Ffermwyr Ifanc Llanwenog. Mae wedi profi llwyddiant mewn nifer o gystadlaethau a gweithgareddau ar lefel Sirol a Chenedlaethol. Edrycha Guto ymlaen yn fawr i gynrychioli Ysgol Bro Pedr fel Prif swyddog eleni a gyda’i gyffro am bethau’n ailgydio, gobeithia Guto i wneud pawb i deimlo’n gyfforddus ac yn ddiogel yn Ysgol Bro Pedr.

Prif Ferch Ysgol Bro Pedr eleni yw Tirion Lloyd o Dregaron a bu hefyd yn Brif Ferch weithgar yn Ysgol Henry Richard y llynedd. Un sydd â chymaint o wahanol ddiddordebau yw Tirion ond yn bennaf, sy’n mwynhau chwarae amrywiaeth eang o chwaraeon. Mae Tirion wedi profi cryn dipyn o lwyddiant ar lefel Genedlaethol yn nofio’r Urdd, rhedeg traws gwlad a marchogaeth yn ‘Pony Club’ a ‘Riding Club’. Wedi dechrau arddangos ceffylau yn ifanc, enillodd ei gwobr gyntaf yn 5 oed, derbyn cyntaf yn y Sioe Frenhinol a bu’n ffodus i ennill rhoséd bob blwyddyn y bu â’i cheffyl yno ers hynny. Bu Tirion hefyd yn rhan o’r triawd â enillodd y Gystadleuaeth fwyd, Ffermio a’r Amgylchedd dros Brydain. Gwnaeth Tirion fwynhau bod yn gapten hoci a phêl-droed yn yr ysgol yn fawr, ynghyd â bod yn gapten Mabolgampau ac Eisteddfod, aelod o wahanol bwyllgorau a bod yn Gadeirydd Cyngor Ieuenctid Cyngor Sir Ceredigion. Enillodd nifer o wobrau gyda’r Urdd yn Genedlaethol yn y maes celf a chrefft ac mae wedi cael ei dewis fel un o Lysgenadon yr Urdd am yr eildro eleni ac yn mwynhau canu a chwarae’r gitâr yn ei hamser hamdden. Braint ac anrhydedd yw bod yn Brif Ferch Ysgol Bro Pedr am y flwyddyn academaidd i Tirion a’i nod ar gyfer y flwyddyn yw bod yn brif ferch ddibynadwy, gweithgar ac ymroddedig.

Filip Poczatek o Lambed sydd hefyd yn Brif Fachgen eleni, ac mae Filip yn adnabyddus iawn am ei ddawn yn y maes gymnasteg. Cyn gystadleuydd cystadleuol gymnasteg yw Filip sydd wedi cynrychioli Cymru a phrofi llwyddiant anferthol ar lefel Genedlaethol a Phrydeinig ar amryw achlysur, â’i lu o wobrau di ri yn dyst o’i ymdrechion. Cael ei wobrwyo fel Pencampwr Twmblo Ysgolion Prydain yw ei lwyddiant mwyaf hyd at heddiw ac o ganlyniad i’w lwyddiant ar hyd y blynyddoedd o’i yrfa cystadleuol, cyrhaeddodd restr fer ar gyfer gwobr “Gymnastwr y flwyddyn” dros Gymru. Erbyn hyn, mae Filip wedi gorffen cystadlu ac yn cynorthwyo i hyfforddi yn y Clwb Gymnasteg. Fel un sydd bob amser wedi mwynhau chwaraeon ac athletau, llwyddodd Filip i ennill cystadleuaeth y naid hir yn y mabolgampau Sirol, yn ogystal â chael ei ddewis fel capten Teifi ym Mabolgampau’r Ysgol yn 2019. Eleni, cynigwyd lle i Filip i fynychu rhaglen “Young Yale Global Scholars program”, â ariennir gan Rwydwaith Seren, sydd â’r bwriad o ddod â disgyblion dros 150 o wledydd gyda’i gilydd fel un, ac mae Filip yn edrych ymlaen yn fawr at y profiad unigryw yma.

Un o’r dirprwy brif swyddogion am eleni yw Zoe Jarman-Davies o Lambed. Mae Zoe yn aelod brwd o Gymdeithas y Scowtiaid ers dros ddegawd a thrwy hyn, cafodd ei dewis i gynrychioli’r Deyrnas Unedig yn y 24ain “World Scout Jamboree” yn America. Yn ogystal, mae Zoe’n gwirfoddoli yn y sesiynau ieuenctid yn ei rôl fel arweinydd ifanc. Un o’r pethau sy’n diddori Zoe yw ffotograffiaeth a llwyddodd i dderbyn yr ail wobr dros y Deyrnas Unedig ac Iwerddon yng nghystadleuaeth Ffotograffwr Ifanc y Rotari yn 2018. Llwyddodd Zoe hefyd i ennill teilyngdod uchel yn ei harholiad clarinet gradd 5 ac mae wedi parhau i’w chwarae ers hynny. Yn ystod yr haf bydd Zoe yn mynychu nifer o raglenni megis “Yale Young Global Scholars” a’r “Lord Edmund Davies Legal Education Trust Summer Scheme” er mwyn ymchwilio opsiynau ar gyfer ei dyfodol. Yn ystod ei hamser hamdden bydd Zoe yn mwynhau darllen a threulio amser gyda’r teulu a ffrindiau.

Mae Alexander Kinchen-Goldsmith yn hynod falch ei fod wedi cael ei ethol fel dirprwy brif swyddog yr ysgol eleni. Mae Alex wedi byw yng Nghymru am chwech mlynedd wedi iddo symud o Ddwyrain Sussex. Un o’i brif ddiddordebau ers yn ifanc yw pêl-droed a’i hoff dîm yw Manchester United a’i hoff chwareuwr Marcus Rashford. Diddordeb arall sydd ganddo yw rasio fformiwla 1 a’i hoff yrrwr  yw George Russell sy’n gyrru dros Williams Racing. Mae Alex yn mwynhau ceir  a’i hoff gar byddai  BMW E30 M3 neu 1965 Shelby Cobra  sydd yn costio dros £1,000,000. Mae e’n hoff iawn o chwarae tenis hefyd ond oherwydd cyfydngiadau COVID nid yw wedi medru chwarae llawer ond y mae’n gobeithio y bydd hyn yn newid yn y dyfodol agos. Mae’n gyn aelod o bwyllgor digidol yr ysgol a oedd yn trafod adnoddau technoleg yr ysgol ac fe wnaeth gymryd rhan fel Cyfreithiwr Amddiffynnol yn nhreialon y Gyfraith y chweched dosbarth.

Cafodd Gruffydd Thomas o Lambed hefyd ei benodi fel dirprwy brif swyddog . Mae Gruffydd yn astudio Cemeg, Bioleg, Mathemateg a Bagloriaeth Cymru ar gyfer

Lefel A. Mae’n aelod brwd o Glwb Ffermwyr Ifanc Bro’r Dderi ac yn mwynhau yr amrywiaeth o brofiadau hwylus sydd yn cael eu cynnig yno. Yn ei amser hamdden, ei hoff beth yn y byd yw beicio mynydd. Bydd yn mynd i Bike Park Wales yn Merthyr a’r Black Mountain Cycle Centre ger Y Fenni yn aml ar benwythnosau i fwynhau yr her o feicio ar y llwybrau anturus ac i gwrdd a chymdeithasu gyda ei ffrindiau beicio. Mae Gruffydd yn gwirfoddoli yn Siop y Smotyn Du ar foreau Sadwrn, ac mae’n eich annog i alw heibio am sgwrs pan fydd yno! Mae Gruffydd yn edrych ymlaen at ei rôl fel dirprwy swyddog ac yn edrych ymlaen at bob cyfle a ddaw i’w ran i gefnogi disgyblion, staff a chymuned Ysgol Bro Pedr.

Mae Oliwia Taisner hefyd wedi ei phenodi fel dirprwy brif swyddog a’u diddordebau yw arlunio a pheintio yn ogystal â chwarae gemau cyfrifiadur. Mae wedi bod yn rhan o’r Rhwydwaith Seren ac wedi llwyddo i gyflwyno prosiect a wnaeth dderbyn marc ardderchog. Profodd Oliwia lwyddiant diri yn yr  Eisteddfod hefyd  am ysgrifennu, straeon a cherddi. Yn ddiweddar mae Oliwia wedi bod yn cymryd rhan ym mhrosiect rhithiol Auschwitz er mwyn siarad efo goroeswyr yr Holocost a chodi ymwybyddiaeth am beth digwyddodd. Mae Oliwia yn awyddus tu hwnt i gychwyn ar ei rôl fel ddirprwy brif swyddog eleni!

Llongyfarchiadau gwresog i’r swyddogion i gyd a dymuniadau gorau iddynt ar gyfer blwyddyn llawn bwrlwm a bythgofiadwy yn Ysgol Bro Pedr!