Tafarn olaf Cwmann o dan fygythiad

Cynlluniau i newid y defnydd o dafarn yn 2 fflat preswyl, gan adael Cwmann heb dafarn o gwbl.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Ugain mlynedd yn ôl roedd tair tafarn lewyrchus yng Nghwmann, ond gyda chynlluniau arfaethedig perchennog presennol Tafarn Cwmann fydd dim un dafarn ar ôl yn y pentref.

Cyflwynodd Mr Nick Wright y perchennog gais cynllunio i Gyngor Sir Caerfyrddin ar y 29ain Ionawr er mwyn newid y defnydd o dafarn yn 2 fflat preswyl a dymchwel yr estyniad to fflat.  Gellir gweld y cynlluniau a gadael sylwadau ar wefan y cyngor.

Mae Nick Wright yn berchen ar sawl tafarn yn nhref Llanbed ac wedi eu hadnewyddu dros y blynyddoedd diwethaf yn lefydd cyfoes a chyffyrddus i yfed a bwyta mas.

Gŵyr pawb fod tafarnau ar gau ar hyn o bryd oherwydd y pandemig, ond mae’n deimlad rhyfedd i feddwl na fydd yr un dafarn ar agor yng Nghwmann wedi’r cyfnod clo er mwyn cymdeithasu a mwynhau unwaith eto.

Ceuwyd tafarn y Lock & Key rhyw ddeunaw mlynedd yn ôl a chyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf y bydd Tafarn y Ram yn newid i aneddau preswyl wedi penderfyniad apêl gynllunio.

Mae Tafarn Cwmann yn dafarn hanesyddol o’r 16eg ganrif gyda’i phresenoldeb amlwg ar sgwâr y pentref yn croesawu teithwyr o gyfeiriad Llanbed.  Adeiladwyd yn wreiddiol ar lwybr y porthmyn.

Cyfeiria’r awdur hoffus D J Williams at Dafarn Cwmann wrth ddisgrifio Nwncwl Bili yn ei lyfr ‘Hen Dŷ Ffarm’.  Gallai’r stori fechan hon fod yn perthyn i ddiwedd y 19eg ganrif.

‘R oedd ef a Jemi’r Wenallt wedi troi i mewn i dafarn Cwm Ann, y tu faes i dre Llambed’ ar ochr Sir Gaerfyrddin, ar y ffordd adref o ryw ffair.  Digwyddai’r stafell yr aethant iddi fod yn llawn Cornishmen o waith mwyn mynydd Cellan, – wyth ohonynt, meddai’r stori.  O dipyn i beth dechreuodd rhai ohonynt figitian y ddau Gymro, a thynnu cweryl.  Pan welodd Jemi ei bod hi’n twymo at sgarmes yno cyrhaeddodd gic ar un o’r Cornish, a dianc drwy’r drws gan obeithio’n ddiau y byddai Bili, o dan yr amgylchiadau, yn ei ddilyn.  A dyna’r uwd i’r tân.  ‘R oedd allwedd y stafell yn digwydd bod yn y drws, o’r tu fewn.  Clôdd un ohonynt y drws, gan roi’r allwedd yn ei boced.  Trechu neu drengi amdani, bellach.  Yn ôl y stori, eto, – coes y stôl yn llaw Bili oedd yr unig ddarn cyfan o’r celfi ar ôl erbyn gorffen y dyrnu a’r malu a fu yno.

Mae hon yn un o ganoedd o straeon difyr y gallai pedair wal Tafarn Cwmann adrodd petaent yn gallu siarad.

Cofia llawer am y croeso cynnes oedd gan Glyn a Coral Evans y cyn berchnogion yn Nhafarn Cwmann a’r bwyd blasus a weinwyd yno dros y blynyddoedd.  Ydyn ni i gyd yn euog o gymryd moethusrwydd fel hynny’n ganiataol yn ein pentrefi ac ond yn barod i fynegi barn wedi i ni eu colli nhw?

Ar y llaw arall, ydy cyfnod tafarnau pentref yn dod i ben?  Neu a oes modd meddwl am ddefnydd buddiol a chymunedol arall i’r canolfannau hyn ar gyfer y dyfodol?