Tafarnau lleol yn paratoi ar gyfer y cyfyngiadau newydd

Beth fydd trefniadau dathlu ar Ŵyl San Steffan eleni?

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Yn dilyn cyhoeddiad Prif Weinidog Cymru ddydd Mercher y bydd mesurau newydd yn dod i rym ar Ddiwrnod San Steffan oherwydd ymlediad Covid19, mae tafarnau lleol wedi gorfod addasu eu gweithdrefnau.

Y cyfyngiadau newydd a fydd yn effeithio tafarnau yw:

  • Rhaid cadw pellter cymdeithasol o ddau fetr mewn mannau cyhoeddus
  • Gwisgo gorchudd wyneb wrth fynd a dod
  • Gwasanaeth bwrdd yn unig mewn tafarndai a bwytai
  • Dim ond chwech i gael eistedd gyda’i gilydd
  • Casglu manylion cyswllt olrhain pawb

Mae Diwrnod San Steffan yn Llanbed fel arfer yn ddiwrnod mawr ac yn ddiwrnod prysuraf y flwyddyn i dafarnau’r dref.

Gofynna’r Nags Head i’w holl gwsmeriaid barchu hyn ar Ddiwrnod San Steffan.  Dim ond lle i draean o’r cwsmeriaid arferol fydd gyda nhw yn yr adeilad a gweithredir ar sail y cyntaf i’r felin.  Rhybuddia’r perchnogion y bydd y drysau’n cau pan fyddant wedi cyrraedd y capasiti hyn.

System debyg a fydd yn yr Oak.  Pwysleisir na fyddant yn cymryd archebion bwrdd nac yn cadw byrddau.  Unwaith y bydd yr Oak yn llawn byddant yn cau’r giât ffrynt, ac yna’n gweithredu system ‘un mewn un allan’.  Bydd methu â dilyn y rheolau a’r trefniadau hyn yn arwain at ofyn i’r person adael a pheidio â dychwelyd tan ddyddiad o ddewis y rheolwr.  Yn ogystal â hyn bydd yr Oak ond yn derbyn taliadau cerdyn digyswllt.

Mae’r Castle ar y llaw arall wedi gofyn i’w cwsneriaid i logi byrddau ac o fewn awr i gyhoeddiad Mark Drakeford roedd pob bwrdd ar gyfer Diwrnod San Steffan wedi llanw.

Mae pob bwrdd yn llawn yng Nghlwb Rygbi Llanbed ar gyfer Diwrnod San Steffan hefyd. Rhaid gwisgo masgiau nes eistedd wrth y bwrdd ac wrth ddefnyddio’r tŷ bach. Rhaid defnyddio hylif diheintio llaw wrth fynd i mewn a gadael ac wrth gyffwrdd drysau ac ati.  Gwasanaeth bwrdd yn unig a fydd yno, felly dim sefyll wrth y bar o gwbl.  Gofynnir i gwsmeriaid barchu diogelwch y staff a dilyn y rheolau hyn er mwyn i bawb gadw’n ddiogel.

Bydd Clwb Rygbi Llanybydder yn agor am 1.30yp ar Ddiwrnod San Steffan gan ddilyn trefniadau newydd.  Bydd llai o fyrddau nag arfer yno er mwyn sicrhau pellter o 2 fedr rhwng pob bwrdd.  Atgoffir cwsmeriaid am lenwi fersiwn bapur o’r daflen tracio ac olrhain, gwasanaeth bwrdd yn unig, 6 i bob grŵp a gwisgo masgiau pan nad yn eistedd.

Bydd rhaid i bob tafarn arall yn yr ardal fabwysiadu trefniadau tebyg o Ddiwrnod San Steffan ymlaen.

Cyhoeddodd Cyngor Sir Ceredigion ar trydar ddoe:

Mae cyfraddau Covid-19 yng Ngheredigion ar lefel na welwyd erioed o’r blaen. Roedd nifer yr achosion ddoe gyda’r uchaf a welwyd mewn 1 diwrnod ers dechrau’r pandemig.  Cadwch at y canllawiau a manteisio ar eich brechlyn.

Sefyllfa anodd felly.  Mae’n bwysig mwynhau dros yr Ŵyl a chefnogi busnesau lleol, ond cofiwch gymryd pob gofal hefyd.