Talacharn 24 Llambed 36

Ennill gêm oddi cartref gyda phwynt bonws yn ddechreuad ardderchog i Lambed.

gan Geraint Thomas

Llun gan Georgina John ar facebook.

Braf oedd teithio unwaith eto i wylio Tîm cyntaf Clwb Rygbi Llambed yn ei gêm gystadleuol gyntaf ers dau fis ar bymtheg. Siwrnai i Glwb Rygbi Talacharn, ar ddiwrnod heulog ond gwyntog, oedd yn eu hwynebu wrth iddynt herio’r tîm oedd yn ail iddynt yn y gynghrair cyn i’r tymor gael ei ohirio bron i flwyddyn a hanner yn ôl. Er eu bod heb nifer o’r garfan oherwydd anafiadau, hunan-ynysu a phriodasau roedd yr hyfforddwyr, Geraint Thomas a Huw Thomas, yn ffyddiog y byddai’r chwaraewyr ifanc yn ateb her y tîm cartref.

Roedd y munudau agoriadol yn rhai corfforol tu hwnt, ond Llambed sgoriodd y pwyntiau cyntaf ar ôl i’r maswr Osian Jones trosi cic gosb o dros hanner can medr gyda’r gwynt ar ei gefn. Munudau yn ddiweddarach roedd y maswr yn cyfuno gyda’r canolwr Gethin Roberts, a ddangosodd bâr o ddwylo destlus i ryddhau Ewan Bowden. Derbyniodd y cefnwr chwimwth y bêl tu fewn i hanner ei hunan ond fe redodd yn glir o’r amddiffyn a mynd o gwmpas cefnwr Talacharn fel petai’n aros yn stond i sgorio cais gwych yn y gornel.

Gyda’r sgôr yn 8-0 i’r tîm o Lambed roedd gweddill yr hanner cyntaf yn hysbyseb wych i rygbi ar y lefel gymunedol yng Nghymru, gyda’r ddau dîm yn ymroi i chwarae rygbi agored, trawiadol. Sgoriodd Talacharn ddau drosgais, un gan yr wythwr talentog, Mikey Williams, ac un gan eu cawr o brop pen tynn. Atebodd y bois o’r Gorllewin gyda dwy gic gosb arall gan Osian Jones a chais, yn dilyn rhagor o waith arbennig gan y cefnwyr, i Ryan Doughty. Yn anffodus fe gafodd yr asgellwr anaf cas i’w ysgwydd yn y broses o dirio’r bêl. Roedd hyn ar ben anaf i’w asennau a gafodd yr wythwr a’r capten grymus, Rob Morgan.

Gyda munudau i fynd cyn yr hanner, roedd y sgôr yn 19-14 i Lambed, ond gyda gwynt cryf yn eu hwynebau yn yr ail hanner, nid oedd hwn yn ddigon o fwlch yn llygaid y tîm hyfforddi. Wrth lwc, fe dorrodd y canolwr Tomos Rhys Jones trwyddo, ar un o’i rediadau nodedig, gan adael taclwyr yn y crysau glas golau a melyn yn deilchion ar y llawr i sgorio’n agos i’r pyst. Tasg hawdd oedd gan ei frawd Osian i drosi gan wneud y sgôr ar yr hanner yn 26 i 14 i Glwb Rygbi Llambed.

Roedd yr ail hanner tipyn mwy tynn o ran y sgorio. Tarodd Talacharn yn ôl gyda throsgais arall i gau’r bwlch i bum pwynt. Fe wnaeth y ddau faswr gyfnewid ciciau cosb i ddod â’r sgôr yn 29-24 wrth i’r gêm gyrraedd y chwarter olaf. Y tîm cartref oedd yn pwyso gyda’r gwynt ar eu cefnau a bu gorfod i’r dyfarnwr profiadol o Lyn Ebwy siarad gyda’r capten newydd James Edwards nifer o weithiau. Ond, gan ddangos calon a’r tân sy’n arwyddocaol o’r garfan ifanc yma, atal yr ymosodiadau wnaeth y bois yn gwisgo marŵn.

Yn wir, erbyn y 10 munud olaf, Llambed oedd y tîm cryfaf ac yn ymosod yn gyson. Fe wnaeth yr hyfforddwyr y mwyaf o’r rheolau eilyddion newydd gan newid y propiau, yr hen ben Aled Bowen, y gweithgar Morgan Lewis a’r cawr Ryan Kelachandra i’w cadw’n ffres trwy gydol y gêm. Profodd hyn yn bwysig, gyda’r blaenwyr yn gweithio’n galed i osod sylfaen i’r brodyr Jones i gyfuno unwaith eto, gydag Osian yn trosi cais arall gan Tomos Rhys. Dyna oedd sgôr olaf yr ornest, gyda’r tîm ifanc o Lambed yn fuddugol o 36 pwynt i 24. Mae ennill gêm oddi cartref gyda phwynt bonws yn ddechreuad ardderchog i’r tymor i’r garfan di brofiad ac edrychwn ymlaen at eu gwylio yn eu gêm nesaf yn erbyn Tregaron ar Ffordd y Gogledd ymhen pythefnos.