Teyrngedau i athro ysbrydoledig

Rhys Williams, a fu farw’n ddiweddar.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Ddoe, cynhaliwyd angladd Rhys Williams yng Nghaerdydd.  Ef oedd cyn bennaeth Adran Saesneg Ysgol Uwchradd Llanbedr Pont Steffan.

Cafwyd teyrngedau lu iddo ar wefannau cymdeithasol.  Yn dilyn ei angladd, dywedodd Gary Slaymaker:

Chi’n cofio’r un athro ‘na fuodd yn ysbrydoliaeth i chi am oes? Rhys Williams odd hwna i fi. Ges i’n nghariad am eiriau wrtho, a’i anogaeth i wneud yn fawr o’r dychymyg hurt ’ma. R’odd e’n belen wenfflam o ynni, seren heb ei ail, a r’odd hi’n fraint llwyr i fod yn rhan o’r gwasanaeth yma, heddi. Nos da Rhys, a diolch am bopeth.

Yn ogystal â bod yn athro ysbrydoledig a phennaeth adran, roedd yn rhan mor allweddol o gynhyrchiadau’r ysgol.  Dywedodd Hywel Roderick:

Ysbrydoledig tu hwnt. Pleser pur oedd perfformio yn y sioeau cerdd dan ei arweiniad a’i ddylanwad hefyd. Gwych.

Dywedodd Elin Jones, Llywydd y Senedd:

Roedd yn berfformiwr ardderchog yn y sioeau cerdd blynyddol – yn actio ac ysgrifennu. A mi fues yn trafod gwleidyddiaeth gydag e am tua 40 mlynedd – ac yn cytuno ar lot fawr o faterion. Pob cydymdeimlad â’i deulu.

Roedd Rhys yn weithgar yn ei gymuned leol hefyd. Dywedodd Ronnie Roberts, Clerc Cyngor Cymuned Pencarreg:

Ddrwg iawn clywed am eich colled chi fel teulu. Roedd yn gymeriad lliwgar ac hoffus a chawsom lawer o storïau difyr yn ei cwmni yn y Ram Inn. Fe fuodd yn barod ei gymwnas gyda ni fel pwyllgor pentre Cwmann yn helpu ni yn Ffair Ram llawer i flwyddyn.

Dywedodd y bardd Menna Elfyn:

O am newyddion trist — bu yn aelod yn fy ngweithdy ysgrifennu creadigol yn y coleg yn Llambed ac yn Nhy Newydd wedi hynny yn cyfansoddi perlau — dyn addfwyn, gwreiddiol dros ben mewn cynifer o feysydd ac yn actor penigamp hefyd yn perfformio ei waith ei hun. Cymeriad unigryw – gallaf ddychymygu iddo fod yn athro penigamp ac ysbrydoledig.

Dywedodd Tegwen Morris, Prifweithredwr Merched y Wawr:

Newyddion trist iawn – athro arbennig iawn, yn llawn ysbrydoliaeth ac wedi fy nysgu mwy nag unwaith yn eistedd ar ben y cabinet ffeilio yn ystafell 13! Yn annog pob un ohonom i siarad yn llafar am ein diddordebau gan gynnwys “how to pull a lamb! yn TGAU a”r arholwr druan yn methu a choelio’r pwnc dan sylw! Tu allan yr ysgol yr oedd Rhys Williams yn wych am gynorthwyo ni fel ffermwyr ifanc Cwmann i ysgrifennu sgriptiau hanner awr adloniant – roedd yn ddyn caredig, llawn hwyl – cydymdeimlad dwysaf gyda’i deulu annwyl.

Dywedodd y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor, cyn weinidog iddo:

Roedd Rhys yn aelod ffyddlon o Bethel, Parcyrhos, pan oeddwn yn weinidog yno. Un a ofynnai gwestiynau heriol oedd yn fy ngorfodi i ymchwilio’n ddyfal cyn llunio pregeth ar y Sul canlynol. Diolch iddo. Roeddem yn eitha agos yn ddiwinyddol, ond i’r pegwn yn wleidyddol. Er yn Llafurwr di-edifar, fe ddangosodd barch a hoffder o nhad oedd yn gyd-aelod ag ef yn Bethel. Parchai a hoffai fy nhad yntau, ond ni fu unrhyw ymdrech ganddo i’w newid yn llwyddiannus! Cydymdeimlad mawr â’r teulu.

Roedd Rhys yn gymeriad unigryw.  Dywedodd Dafydd Charles, cyd athro iddo:

Cwsg yn dawel Rhys. Gyfaill annwyl. Cawsom ni sbort dros y blynydde fel cyd-athrawon yn Llambed. Cymeriad a hanner, a dweud y lleia. Ysbrydoledig fel athro. Yr agosa weles i erioed i Robin Williams (carpe diem) fel athro.

Cydymdeimlir yn fawr â Margaret ei wraig, ei ferched Meriel a Catherine a’r teulu gan ddiolch am yr holl atgofion.