Torri gwallt a chodi arian

Soffia Evendon 9 oed o Lanybydder yn codi arian ar gyfer Little Princess Trust.

gan Dewi Davies
05A98FF9-D403-435F-BC72
7E8E8B13-7D43-4664-AA40

Penderfynodd Soffia Evendon 9 oed o Lanybydder dorri ei gwallt hir a’i roi i’r Little Princess Trust i godi arian i’r Trust.

Sefyliad yw hwn sydd yn gwneud wigs i blant sydd wedi colli eu gwallt drwy cancr neu ryw anhwylder arall.

Yn y Clwb Rygbi bu’r digwyddiad gyda Katie Clements yn cymryd at y gwaith.

Noddwyd Soffia i wneud hyn ac erbyn hyn mae wedi codi £1,426. Mae pob wig yn costio £550. Mae am ddiolch i bawb a wnaeth gyfrannu. Mae’r gronfa yn dal ar agor.

Yn y llun cyntaf mae Katie yn paratoi dechrau ar y gwaith, ac yn yr ail lun mae Soffia gyda’i gwallt byr erbyn hyn yn cyflwyno blodau i Katie i ddiolch iddi.