Torri record arall ym Mart Llanybydder!

Arwerthiant llwyddiannus arall yn Llanybydder a’r mart yn orlawn

Ffion Caryl Evans
gan Ffion Caryl Evans
IMG_9374

Gwerthwyd dros 800 o wartheg ym Mart Llanybydder Ddydd Sadwrn y 9fed sydd yn record newydd ar gyfer marchnad un diwrnod!

Roedd trêd da drwy gydol y sêl gyda’r prynwyr yn awyddus i gael eu dwylo ar yr amrywiaeth eang o wartheg – roedd rhywbeth at ddant pawb. Dyma brisiau ucha’r dydd

– Eidon orau £1620 o eiddo Bellamy, Hendy
– Aner orau £1710 o eiddo Davies, Hafod y Dail
– Tarw stôr gorau £840 o eiddo Dolgian Farm
– Buwch mewn llo gorau £1100 o eiddo Jones, Garthlwyd
– Buwch orau £1210 o eiddo Evans, Penbryn
– Buwch a llo gorau £1750 o eiddo Jones, Garthlwyd

Cofiwch y dyddiadau canlynol ym mis Hydref, a chofrestrwch yn fuan os oes stoc gyda chi i werthu
23ain o Hydref – Arwerthiant stoc magu
30ain o Hydref – Ffair cyntaf

Hoffwn ddiolch i’r prynwyr a’r gwerthwyr am eu cefnogaeth a diolch i’r gwerthwyr am fod mor amyneddgar wrth ddod â’u stoc i fewn. Diolch hefyd i staff Evans Bros. Nid yw’n dasg hawdd i drafod dros 800 o wartheg mewn diwrnod a sicrhau bod popeth yn rhedeg esmwyth.

Arwerthiant llwyddiannus arall, gyda’r prynwyr yn gadael gyda lorïau llawn a’r gwerthwyr yn gadael yn bles.