Trydariad merch leol am lofrydd o Sir Benfro yn firol

Ysgrifennodd Elin Gwyther am brofiad ei thad yn chwarae dartiau gyda John Cooper.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Llun: itv.com

Mae trydariad gan ferch leol am John Cooper, y llofrudd yng nghanol drama ITV “The Pembrokeshire Murders”, wedi mynd yn firol.

Mewn neges trydar ysgrifennodd Elin Gwyther o Silian: “The Pembrokeshire Murders on ITV tonight – my dad used to play darts with the killer.. Dad: ‘he was always a nasty piece of work, good darts player though fair play’”

Erbyn hyn, mae neges Elin wedi ei rannu 273 o weithiau a derbyn 6,805 o ‘likes’ yn ogystal a denu nifer fawr o sylwadau yn gwirioni ar sylwad mor Gymreig o ran naws.  Ychydig a wyddai ei thad y byddai cymaint o drafod amdano a’i hoffter o chwarae dartiau!

Mae’r ddrama yn dangos hanes Cooper (a chwaraeir gan Keith Allen), lleidr toreithiog y datblygodd ei droseddau i lofruddiaeth dreisgar ym 1985. Ni chafodd ei ddal tan 1998, gyda’i ymwneud â chyfres o lofruddiaethau a threisio ond yn dod i’r amlwg flynyddoedd yn ddiweddarach.

Ymddangosodd Cooper ar y sioe ddartiau Bullseye ym 1989. Cafodd y bennod ei ffilmio a’i darlledu fis yn unig cyn iddo ladd y cwpl Peter a Gwenda Dixon ar arfordir Sir Benfro, ardal yr oedd wedi brolio cymaint amdani ar y rhaglen.

Bydd pennod olaf “The Pembrokeshire Murders” sy’n cynnwys llawer o actorion o Gymru ar ITV heno am 9 o’r gloch a gellir gwylio rhaglen “Y Ditectif” am lofruddiaethau Sir Benfro ar S4C am 10.25 o’r gloch.