Hoffai Gwasanaethau Coed Llambed ddweud diolch yn fawr i’r gymuned am eu rhoddion wrth ailgylchu coed Nadolig eleni.
Fe wnaethon ailgylchu dros bumdeg o goed ac o achos eich rhoddion rydym wedi casglu £490 tuag at Ambiwlans Awyr Cymru.
Mae Gwasanaethau Coed Llambed yn gwmni teuluol o dair cenhedlaeth, ac am y tro cyntaf eleni roeddem yn cynnig gwasanaeth ailgylchu coed Nadolig i’r gymuned.
Mae 8 miliwn o goed go iawn yn cael eu prynu yn y Deyrnas Unedig ar gyfer y Nadolig bob blwyddyn, ac felly mae’r ffordd yr ydyn yn eu gwaredu yn bwysig ofnadwy.
Yn ôl y BBC, trwy ailgylchu coeden 2 fedr o hyd yn hytrach na’i waredu i safle tirlenwi, gallwch leihau eich ôl troed carbon hyd at 80%.
Croesawyd cyfraniadau am y coed gydag isafswm o £3, ac roedd yr holl roddion yn mynd at elusen Ambiwlans Awyr Cymru, sef elusen sydd â’r nod o godi £8 miliwn bob blwyddyn er mwyn sicrhau eu bod yn gallu cadw i hedfan a pharhau i achub bywydau.
Byddwn yn cynnal y gwasanaeth blwyddyn nesa hefyd.