29. Wendy Readwin, Cwmni Yswiriant Eryl Jones – y flwyddyn a fu

Dyma’r nawfed ar hugain mewn cyfres o gyfweliadau â gweithwyr lleol yn trafod effaith y cyfnod clo.

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones

Mae’n flwyddyn ers dechrau’r Cyfnod Clo, ac er mwyn nodi hynny mae Clonc360 yn holi gweithwyr lleol am effaith cyfyngiadau Covid-19 arnynt yn y flwyddyn.

Mae Wendy Readwin yn Gyfarwyddwr Gweithredol gydag Eryl Jones, cwmni yswiriant ar y Stryd Fawr, Llanbedr Pont Steffan. Diolch yn fawr iddi am ateb y cwestiynau.

Beth yw’r heriau mwyaf chi wedi’u hwynebu yn y flwyddyn ddiwethaf?

Yr her fwyaf i’r cwmni oedd addasu i fedru gweithio o hirbell o gartref wrth barhau i ddarparu gwasanaeth cymwynasgar o safon uchel i’n cwsmeriaid. ’Roedd rhaid i ni fel tîm ddysgu sut i gyfathrebu’n effeithiol gyda’n gilydd i reoli’r llif gwaith. ’Roedd rhaid hefyd sicrhau ein bod ar gael i’n cwsmeriaid yn ôl yr arfer a’u bod yn medru dibynnu arnom ac ar ein gwasanaeth.

Ar y cychwyn trefnwyd bod tair yn gweithio o gartref a bod y galwadau ffôn yn cael eu hailgyfeirio atynt. ’Roeddwn i’n gweithio yn y swyddfa yn y prynhawniau yn agor, didoli a danfon y post. Trefnwyd nes ymlaen bod aelod ychwanegol o staff yn y swyddfa i gynorthwyo gyda’r gwaith hwnnw. Mae nifer o’r cwsmeriaid wedi arfer ffonio’r swyddfa i drafod busnes. Roedd yn well gan eraill alw yn y swyddfa i drafod wyneb yn wyneb ac roedd y drefn newydd yn fwy o her iddynt hwy. Mae pawb wedi bod yn hyblyg chware teg iddynt.

Mae wedi bod yn flwyddyn heriol dros ben ac yn dal i fod. Y mae’r swyddfa eto i’w dychwelyd i’w threfn arferol a rhaid i’n cwsmeriaid drefnu apwyntiad ymlaen llaw i ymweld â’r swyddfa. Mae rhai staff yn parhau i weithio o gartref fel gall eraill sydd yn y swyddfa weithio’n ddiogel a chydymffurfio â’r pellter cymdeithasol priodol. ’Rydym mor falch bod y sefyllfa’n gwella ac yn obeithiol o ddyddiau gwell i ddod.

Beth sydd wedi newid eleni a sut ’rydych chi wedi gorfod addasu?

Bu rhaid i ni addasu ein prosesau gwaith er mwyn sicrhau bod y gwaith yn cael ei arbed ar y system yswiriant cyfrifiadurol arbenigol sydd gennym. Golyga hynny bod y swyddfa bron a bod yn ddi-bapur erbyn hyn sy’n ddatblygiad cadarnhaol.

Beth ydych chi wedi dysgu dros y cyfnod clo?

Dysgais ar lefel bersonol i beidio â chymryd fy rhyddid yn ganiataol a thrysori’r amser a gaf gyda theulu a ffrindiau. O safbwynt y busnes, ’rydym fel tîm wedi dysgu nad oes dim byd yn amhosibl. Gallwn wynebu a goresgyn y sialensiau ddaw i’n rhan drwy gydweithio’n glos gyda’n gilydd.