Danfonwyd gwybodaeth i breswylwyr yr ardal heddiw am Bentref Bwyd newydd a fydd yn cynnwys siop fwyd Aldi ar Heol Pontfaen, Llanbed.
Mae yna gyfle o fewn y daflen i fynegi barn am y cynlluniau a dychwelyd y ffurflen yn yr amlen rhadbost a ddarperir.
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a’r adwerthwr bwyd Aldi, sydd wedi ennill gwobrau am ei gynnyrch, yn cydweithio ar gynigion cyffrous ar gyfer Pentref Bwyd newydd yn Llambed, gan ddefnyddio rhan o gaeau chwarae’r Brifysgol ym Mhontfaen.
Bydd y Pentref Bwyd yn cynnwys siop fwyd gymunedol Aldi newydd sbon, ynghyd â chlwstwr o gabanau, a fydd yn rhoi cyfle i arddangos cynnyrch lleol. Yn ogystal bydd yn cynnig lle ar gyfer prosiectau cydweithio sy’n gysylltiedig â gweithgareddau ymchwil ym maes bwyd a maeth, yn rhan o fenter Canolfan Tir Glas y Brifysgol.
Bydd y Pentref Bwyd yn hyrwyddo ac yn arddangos cynnyrch o Gymru, a gaiff ei werthu mewn siopau lleol ac yn siop fwyd Aldi. Cynhelir digwyddiadau a chynlluniau hyrwyddo rheolaidd, gan wneud defnydd llawn o’r Pafiliwn ar ei newydd wedd, a ddaw’n hwb cymunedol. Bydd y Brifysgol yn cadw ac yn gwella’r cae chwarae i’w ddefnyddio gan y myfyrwyr a’r gymuned leol ar gyfer chwaraeon a hamdden.
Bydd y cynigion cyffrous hyn yn adfywio safle Heol Pontfaen, gan ei wneud yn gyrchfan i ymwelwyr ac yn borth i Lambed, gyda gweithgareddau cysylltiedig yn dangos y ffordd i ganol y dref a champws y Brifysgol.
Gellir hefyd ymweld â gwefan sy’n dweud mwy am y cynlluniau ac yn egluro sut y gallwch roi eich adborth ar y cynigion.
Dywed y daflen fod llawer i’w hoffi fel buddsoddiad helaeth yn hen adeilad y pafiliwn rhestedig a phwyntiau gwefru cerbydau trydan, ond a ydy pawb yn gytun bod angen archfarchnad arall yn Llanbed?
A fydd y cae chwarae yn ddigon ar gyfer digwyddiad poblogaidd fel Twrnament Pêl-droed Blynyddol Llanbed? Sut fydd hyn yn effeithio masnach yng nghanol y dref? Cofiwch ymateb gan gytuno neu anghytuno â’r cynigion.