Ysgol Bro Pedr yn codi arian tuag at elusen Plant Mewn Angen

Yn ystod Dydd Gwener 19eg Dachwedd, roedd gweithgareddau lu i godi arian tuag at Blant Mewn Angen.

gan Ifan Meredith
DC8CA342-DFA6-404B-B066
34E932FF-1927-40FF-8A04
F48AFBB4-51AA-4B23-87EE
7D9EC9C0-3633-4E08-B860
6F59C976-50D5-45AF-99B8
C86A1E28-E3AF-4709-BEE9
9E4A3399-0C62-476A-89A5

Yn ystod y dydd, cfodd disgyblion Ysgol Bro Pedr wisgo gwisg eu hunain yn yr uwchradd a bu disgyblion y cynradd yn gwisgo’u pyjamas.

Cynhaliwyd gweithgareddau di-ri yn y cynradd a stondin gacennau yn yr uwchradd. Yn anffodus, gohiriwyd gêm hoci rhwng bechgyn a merched y chweched o achos amodau’r ‘astro’.

Serch hynny, roedd y cyfanswm a godwyd gan yr ysgol yn £1,222.60 am 3:30yp ar y 19eg o Dachwedd.

Codwyd £318.41 gan stondin gacennau’r Cyngor Ysgol ac medd Mrs Edwina Rees, arweinydd Cyngor yr Ysgol bod y ‘Cyngor ysgol yn falch i gefnogi gweithgareddau Plant Mewn Angen yn yr ysgol eleni. Diolch i bawb a helpodd ar y stondin a chyfrannodd gacennau i’r stondin.’

Dyma rai lluniau uchod o’r diwrnod â fu yn ogystal â chyfweliad ecsgliwsif gyda’r Pennaeth, Mrs Jane Wyn.