Ysgol Bro Pedr yn ennill gwobr Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig 2021

Dyfarnwyd y wobr am brosiect hanes a wnaed gan ddisgyblion Blwyddyn 8 yn yr ysgol. 

gan Siwan Richards

Mewn seremoni wobrwyo rithiol ar 2 Gorffennaf, enillodd Ysgol Bro Pedr darian y sector uwchradd mewn cystadleuaeth flynyddol a gynhelir gan Fenter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig.

Roedd y prosiect ‘I Mewn ac Allan o Gymru’ yn brosiect uchelgeisiol a chyfoethog a oedd yn delio ag ymfudo ac allfudo.

Mae Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig yn darparu cyfle i bobl ifanc o bob oedran a gallu ledled Cymru gymryd mwy o ddiddordeb yn eu treftadaeth/cynefin, a’r cyfraniad a wnaed iddo/iddi gan eu cymunedau hwy eu hunain. Thema eleni oedd edrych ar hanes ymfudo gyda chysylltiadau Cymreig.

Yn ogystal, enillodd Klaudia Kalinowska, disgybl blwyddyn 12 o Ysgol Bro Pedr, wobr ‘Eustory’ am ei gwaith ar ymfudo o Wlad Pwyl i Gymru. Rhwydwaith anffurfiol o sefydliadau anllywodraethol yw Eustory, sy’n cynnal cystadleuaeth hanes seiliedig ar ymchwil ar gyfer pobl ifanc mewn 28 gwlad ar draws Ewrop; Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig yw unig aelod y DU gydag Eustory.

Jane Wyn yw Pennaeth Ysgol Bro Pedr. Dywedodd: “Fel ysgol, rydym yn hynod falch o gyflawniadau ein disgyblion, ac mae’r gystadleuaeth hon wedi darparu cyfle gwych i’r disgyblion a’r Adran Hanes ddathlu amrywiaeth ddiwylliannol ein hysgol.”

Ar gyfer y gystadleuaeth, derbyniodd Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig dros 30 ymgais, Cymraeg a Saesneg, ar draws y sector addysg. Canmolodd y beirniaid ddisgyblion Ysgol Bro Pedr am y ffeithiau a ddysgwyd a’r darganfyddiadau a wnaed ar gyfer y ddau brosiect a gyflwynwyd.

Mae Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig yn helpu pobl ifanc i ddarganfod a dysgu am eu treftadaeth, a’r modd y mae’n cyfoethogi ein bywydau. Mae rhagor o wybodaeth am Fenter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig ar gael ar https://www.whsi.org.uk/.