Aberteifi 13 Llambed 34

Bechgyn Llambed yn dangos eu doniau yng ngwynt Aberteifi!

gan Geraint Thomas
thumbnail_8db4f34a-78a1-44b1

Y canolwr cydnerth Jac Williams ar ben ei ddigon yn dilyn buddugoliaeth gyfforddus i Lambed

Teithiodd Tîm 1af Llambed i Aberteifi am eu gêm gyntaf oddi cartref ers y 4ydd Rhagfyr. Yn wir, dim ond eu trydedd gêm yn 2022 oedd hwn, diolch i gyfuniad o gystadleuaeth y Chwe Gwlad a’r tywydd garw.

Chwaraeodd Llambed mewn i wynt cryf iawn yn yr hanner cyntaf, ac er mai’r tîm cartref sgoriodd y pwyntiau cyntaf ar ôl 5 munud, trwy gic cosb gan ei maswr ifanc, roeddent yn edrych yn gyfforddus iawn am ran fwyaf o’r hanner. Ar eu hymosodiad cyntaf yn 22 y gwrthwynebwyr, sgoriodd y bachwr Ryan Mackie, yn dilyn sgarmes symudol rymus gan y blaenwyr. Methodd Osian Jones y trosiad mewn i’r gwynt, ond doedd ddim yn rhaid iddo aros yn hir am gyfle arall.

Yn dilyn cic gosb arall i’r tîm cartref, daeth cais gorau’r gêm i’r bechgyn yn y Marŵn! Enillodd y blaenwyr bêl lân yn y lein, ac yn dilyn rhediad grymus gan Ifan-John Davies, fe gyfunodd Ryan Mackie, Osian Jones a Carwyn Lewis i ryddhau’r canolwr nerthol, Jac Williams. Bu bron iddo wastraffu’r cyfle, ond fe daflodd bas pêl fasged i’w asgellwr de Idris Lloyd. Carlamodd Lloyd hanner hyd y cae i sgorio o dan y pyst i wneud y trosiad yn un hawdd i Osian Jones. Hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf roedd y sgôr yn 12-6 i Lambed.

Er iddynt bwyso’n galed a chwarae rygbi deniadol ar adegau, roedd y gwynt yn ei gwneud hi’n anodd i basio’n fanwl gywir, ac roedd amseriad rhai o symudiadau’r tîm oddi cartref yn sigledig. Yn wir, toc cyn hanner amser, torrodd un o symudiadau bois Llambed lawr, pan oeddent yn debygol o sgorio trydydd cais. Bownsiodd y bêl yn garedig i flaen asgellwr Aberteifi, a rhedodd 70m i sgorio o dan y pyst, er ymdrechion Morgan Lewis i’w ddal. Digwyddodd hyn i gyd tra roedd hen ben y pac o Lambed, Aled Bowen, bant o’r cae yn dilyn cerdyn melyn ar ôl iddo ymateb i ergyd gan un o fois Aberteifi. Gwnaeth hyn y sgôr ar yr hanner yn 13-12 i Aberteifi.

Doedd dim rhaid i’r hyfforddwyr, Geraint a Huw Thomas, aros yn hir am ymateb. Yn dilyn gwaith gwych gan yr wythwr, Ifan-John Davies, yn cwrso lan o gic gyntaf yr ail hanner, fe ysgubodd Llambed y bêl allan i’r dde, lle’r oedd y canolwr bytholwyrdd, Glyn Jones, yn barod i ymestyn ei gam i sgorio o dan y pyst, yn dilyn ond 30 eiliad o’r ail hanner. Trosodd Osian Jones y cais i adfer mantais 6 pwynt yr ymwelwyr, 19-13.

Er eu bod yn gwneud rhai camgymeriadau esgeulus, roedd Llambed dal yn chwarae rygbi cyflym, cyffrous; steil o rygbi sydd yn nodweddiadol o’r tîm ifanc yma, steil sy’n denu’r cefnogwyr, gyda nifer helaeth wedi gwneud y daith lawr i waelod y Sir i gefnogi’r ‘Marŵns’ unwaith eto.

Daeth 2 gais olaf y prynhawn i gapten y dydd, y canolwr Tomos Rhys Jones, sy’n rhannu’r fraint am weddill y tymor gyda’r blaen asgellwr yn y cap glas, James Edwards. Maent yn gwneud hyn yn dilyn ymfudiad capten gwreiddiol y tymor, Rob Morgan, i Ganada ym mis Ionawr. Dymuna’r tîm a’r Clwb cyfan yn dda iddo ef a’i ddyweddi, Bella, yn eu bywyd newydd ochr draw’r Byd.

Fe sgoriodd Jones yr un cyntaf ar ôl cyfnod o rygbi pert gan y tîm oddi cartref, gan dorri trwy’r llinell amddiffynnol. Daeth yr ail yn dilyn hanner bylchiad a phas allan o’r dacl gan ei frawd Osian Jones. Trosodd Osian yr ail gais gan wneud y sgôr terfynol yn 34-13 i’r ymwelwyr.

Bydd Llambed yn croesawu Tyddewi dydd Sadwrn nesaf, yn barod i ddiddanu torf fawr unwaith eto yn Ffordd y Gogledd, gan obeithio bydd yr haul yn gwenu.