Adfywio Shakespere yn y gwersi Saesneg.

Tro ar ddysgu dramâu Shakespere yng ngwersi Saesneg Ysgol Bro Pedr.

gan Ifan Meredith

Fel rhan o’r cwricwlwm addysg TGAU, mae Shakespere yn rhan annatod ond anodd o’r cwrs Saesneg Llenyddiaeth ond sut mae gwneud ei ddysgu yn hwyl?

Bu Mark Hayes o gwmni ‘Conflux’ yn Ysgol Bro Pedr fel rhan o gynllun ‘Play of the day’ i ddangos sut i ddod â dramâu Shakespere yn fyw yn y gwersi.

“yn falch i gael y cynllun fel un o’n cynhyrchiad mwyaf blaenllaw” -Mark Hayes

‘Romeo & Julliet’ oedd yn cymryd sylw y tro yma gyda disgyblion blwyddyn 9 yn cymryd rhan fel y gwahanol gymeriadau wrth astudio’r amrywiaeth o olygfeydd gwahanol yn y ddrama.

‘”rhoi ffocws pan yn ceisio deall rhywbeth mor gymleth â Shakespere”

“Shakespere yn berthnasol i’r amser presennol”

Sylweddolwyd hefyd bod y gweithdy yma yn rhoi tro modern i ddramâu Shakespere. Mae gweithdai o’r fath wedi bod yn rhedeg ers 20 o flynyddoedd ac wedi bod yn llwyddiant mawr ers sefydlu’r cynllun.

“cyfle i ymgymryd â’r ddrama mewn ffordd fwy meddylgar na’i ystyried fel dim ond geiriau ar bapur”

Cafodd y gweithdy ei ddisgrifio fel ‘ffordd well o ddysgu ac yn hwyl hefyd’ yn ôl un disgybl. Roedd pennaeth yr Adran Saesneg, Lowri Tomlin hefyd yn ei weld fel ffordd ‘effeithiol o ddysgu ar y cyd â dysgu yn y dosbarth’.