Agor gerddi yn Temple Bar a chodi £2,600 ar gyfer Apêl Cemo Bronglais

Roedd Irene Thomas eisiau helpu’r Apêl felly cafodd hi a’i chymydog Edna ddigwyddiad gardd agored dros un penwythnos

Bev Thomas
gan Bev Thomas
Irene-Thomas-garden-fundraiser

Irene Thomas gyda’i gŵr Huw, ei chymydog Edna Dowsall a’r Nyrs Glinigol Arbenigol Rhian Jones.

Syniad hyfryd gan Irene Thomas a’i chymydog drws nesaf Edna Dowsall, a agorodd eu gerddi yn Temple Bar a chodi £2,600 ar gyfer Apêl Cemo Bronglais.

Gallai ymwelwyr fynd ar daith o amgylch y ddwy ardd yn Temple Bar a chafwyd lluniaeth, stondin blanhigion a raffl hefyd.

Roedd Irene eisiau codi arian i’r Apêl ar ôl derbyn triniaeth yn yr uned ddydd cemotherapi ar gyfer canser y fron.

Dywedodd Irene, 72: “Cefais ddiagnosis o ganser y fron yn union fel yr oedd y pandemig yn cychwyn. Cefais gemotherapi ym Mronglais, ac yna mastectomi dwbl, mwy o gemotherapi a radiotherapi.

“Fyddwn i ddim yma heb y gofal anhygoel ges i. Roedd pawb mor garedig, roedd y staff yn fendigedig. Roeddwn i eisiau helpu’r Apêl am uned ddydd cemotherapi newydd, felly cafodd fy nghymydog Edna a minnau ddigwyddiad gardd agored dros un penwythnos.

“Rydw i eisiau dweud diolch i bawb a helpodd; roedd 10 ohonom, yn deulu a ffrindiau. Diolch hefyd i bawb a fynychodd a hefyd i’r rhai na allai fod yn bresennol ond a roddodd roddion yn lle hynny.”

Nod Apêl Cemo Bronglais yw codi’r £500,000 terfynol sydd ei angen ar gyfer y gwaith adeiladu i ddechrau ar uned ddydd cemotherapi bwrpasol newydd ar gyfer Ysbyty Bronglais, er mwyn gwella profiad y claf yn fawr.

I gael rhagor o wybodaeth am yr Apêl ewch i’r wefan.