Agoriad swyddogol lawnt fowlio Llanbed

Agor y lawnt fowlio ar gyfer tymor arall tu allan i Glwb Bowlio Llanbed.

gan Ifan Meredith
IMG_6500Facebook - Clwb Bowlio Llanbed

Maer y dref, Mr Selwyn Walters yn bowlio’r bowl cyntaf i agor tymor tu allan 2022

IMG_6501

Bu pedwar ‘rink’ yn chwarae yn erbyn ei gilydd ar y dydd.

Ar ddydd Sadwrn, y 23ain o Ebrill, agorodd llywydd y clwb, Gareth Davies a Maer y dref, Mr Selwyn Walters lawnt fowlio Llanbed yn swyddogol wrth ddymuno pob lwc i’r tymor sydd i ddod.

‘Yn draddodiad gwych’

Yn draddodiadol, mae’r gwestai yn bowlio’r bowl cyntaf ar y lawnt ar agoriad y clwb. Mae hyn wedi bod yn draddodiad ers cychwyn cyntaf y clwb gyda hanes agoriad swyddogol cyntaf y lawnt yn 1925 lle agorodd y Maer bryd hynny, Mr David Nun Davies y lawnt ac felly, ef oedd y cyntaf i fowlio ar lawnt y clwb yn Llanbed.

Mae’r clwb nawr yn barod i groesawu unigolion o bob oed i ymuno wrth i’r clwb lansio cynghrair yn wythnosol ar nos Wener lle mae yna gyfle i aelodau fwynhau’r tywydd braf (gobeithio) a hwyl yn cymdeithasu gydag eraill. Mae yna gystadleuaeth tripled agored i aelodau hefyd ar y 18fed o Fehefin gyda gwobr o £1,000 i’r enillwyr. Mae’r gystadleuaeth hon wedi ei noddi gan Adeiladwyr Philip a Dorian Thomas a Gwasanaethau Coed Llanbed.

Ar nos Lun, y 25ain o Ebrill, mi fudd cynghrair bowlio merched yn ailddechrau wedi dwy flynedd o seiniant a’r ddau dîm sydd gyda Llanbed,  Llan a Pont Steffan, yn herio ei gilydd i ddechrau’r tymor. O ran y dynion, mi fyddan nhw yn dechrau eu gemau cynghrair ar y 25ain o Fai  gyda’r tîm cyntaf a’r ail dîm yn chwarae yn erbyn Aberaeron.

Edrycha’r clwb ymlaen at haf arall o fowlio wrth i nifer o aelodau’r clwb gynrychioli’r sir, a’r clwb mewn gemau a chystadlaethau amrywiol.