Anna yn codi £24,500 gwych i Apêl Cemo Bronglais 

Trefnu Dawns Haf i godi arian ar ôl derbyn triniaeth ar gyfer canser y fron.

Bev Thomas
gan Bev Thomas
10DF5EF6-48CE-42F2-B3B2

Trefnodd y wraig fusnes a mam i dri o blant, Anna Crane-Jones Ddawns Haf a chodwyd £24,500 gwych i Apêl Cemo Bronglais ar ôl derbyn triniaeth ar gyfer canser y fron.

Dywedodd Anna ei bod am gefnogi’r apêl am uned ddydd cemotherapi newydd ar ôl i staff yno fod mor “rhyfeddol”.

Ar ôl rhagori ar ei tharged codi arian o £10,000, dywedodd Anna: “Ni allaf gredu o hyd bod cyfanswm o £24,500 wedi’i godi, a hynny i gyd diolch i gefnogaeth gan fusnesau ac unigolion lleol.

“Rhoddwyd llawer o amser ac ymdrech i’r digwyddiad, ond roedd yn werth yr ymdrech iweld y targed o £10,000 yn cael ei gyrraedd. Roedd yn noson ardderchog, gyda bwyd da ac adloniant gwych, a gwnaeth Geraint Hughes waith ardderchog yn cynnal y noson. Diolch ibawb a gyfrannodd ac a fynychodd y noson i helpu i’w gwneud yn llwyddiant i achos mor dda.”

Cafodd Anna ddiagnosis o ganser y fron dair blynedd yn ôl, yn 37 oed.

“Fe wnes i ddod o hyd i lwmp tra ar wyliau sgïo ac fe aeth y cyfan oddi yno. Roedd yngymaint o sioc darganfod bod gen i ganser. Dilynodd lwmpectomi, ynghyd â chwe mis o gemotherapi, pedair wythnos o radiotherapi a blwyddyn o imiwnotherapi. Rwy’n dal i fyndam archwiliadau bob chwe mis.”

“Roedd y staff yn yr uned ddydd cemotherapi yn Ysbyty Bronglais yn wych. Allen nhw ddimbod wedi gwneud mwy,” ychwanegodd Anna, sy’n byw yn Llanbedr Pont Steffan gyda’igŵr, y ffermwr Ceirian Jones, a’u tri mab, Harvey, 17, Kai 14 oed ac Osian wyth oed.

“Roedd yn anodd i’r bechgyn ond roeddem bob amser yn aros yn bositif a nawr rwy’nteimlo’n iawn.”

Ychwanegodd Anna: “Roeddwn i eisiau trefnu rhywbeth i godi arian i’r Apêl i ddweuddiolch. Mae cymaint o bobl wedi’u heffeithio gan ganser ac mae mor bwysig bod pawb yngallu dod at ei gilydd i gefnogi Apêl Cemo Bronglais gyda’r ymdrech olaf i godi’r arianhanfodol sydd ei angen i agor yr uned newydd.”

Gwelir Anna (dde) yn trosglwyddo’r siec i’r (o’r chwith) Oncolegydd Dr Elin Jones, NyrsGlinigol Arbenigol Cemotherapi Bettina Vance, Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd Stacey Mleczek a Prif Nyrs Cemotherapi Cassie Thomas.

Lansiwyd Apêl Cemo Bronglais ddiwedd mis Tachwedd i godi’r £500,000 terfynol sydd eiangen i ddechrau adeiladu uned ddydd cemotherapi bwrpasol newydd ar gyfer Ysbyty Bronglais.

Dywedodd Bridget Harpwood, Swyddog Codi Arian Elusennau Iechyd Hywel Dda sy’ntrefnu’r Apêl: “Rydym mor ddiolchgar i Anna am ei chefnogaeth a’r swm anhygoel a godwyd. “Gyda chymorth ein cymunedau lleol, gall ein breuddwyd o gael uned newyddsbon, fodern ac addas ar gyfer y dyfodol i wella profiad ein cleifion ddod yn realiti.”

I gael rhagor o wybodaeth am yr Apêl ewch i: www.elusennauiechydhyweldda.org.uk